Rhybudd i bensiynwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Adran Safonau Masnach yn annog pobl i fod ar eu gwyliadwriaeth wedi i ddyn oedd yn honni ei fod yn arddwr dargedu pensiynwr bregus yn ei gartref ym Mhrestatyn.
Aeth y dyn at y pensiynwr a chynnig gwneud gwaith garddio iddo a chafodd dâl ymlaen llaw o £120 mewn arian parod.
Pan aeth y pensiynwr i stafell arall a throi rownd roedd y dyn wedi diflannu. Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio.
Dywedodd Ian Millington o Safonau Masnach Sir Ddinbych: "Tra bod y rhan fwya o arddwyr yn ddilys ac yn cynnig gwasanaeth dibynadwy, mae yna rai unigolion diegwyddor wnaiff fanteisio ar bobl fregus a'r henoed.
'Yn ofidus'
"Yn yr achos hwn fe fanteisiodd y dyn ar y cyfle i ymadael heb wneud y gwaith ac yn sgil hyn mae'r dyn oedrannus yn ofidus ac ar ei golled.
Dywedodd na ddylai neb gytuno i unrhyw waith os oedd masnachwr yn cyrraedd heb ei wahodd nac i dalu am waith ymlaen llaw.
Mae unrhyw fasnachwr dilys, meddai, yn rhoi dyfynbris ysgrifenedig a gwaith papur yn dweud pwy ydyn nhw ac o ble maen nhw'n dod.
"Os oes cytundeb yn eich cartref a masnachwr yn bresennol mae hawl gyfreithiol i saith diwrnod o ailfeddwl."
Cadw llygad
Dywedodd y Sarjant Ceri Hawe eu bod hefyd yn annog preswylwyr i fod yn fwy gwyliadwrus rhag ofn bod pobl amheus yn yr ardal.
"Mae patrolau plismona amlwg ym Mhrestatyn ac fe fyddan nhw'n cynnig cyngor arbennig.
Dywedodd y dylai pobl roi gwybod am bobl amheus - a pheidio â gadael i bobl ddierth ddod i mewn i'r cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011