Disgwyl i brisiau tai 'ostwng' dros y chwarter nesa'
- Cyhoeddwyd

Cafodd rheolau treth stamp dros dro eu cyflwyno yn 2010 i helpu rhai yn prynu tai am y tro cynta'
Mae disgwyl i brisiau tai ddisgyn yng Nghymru dros y tri mis nesa', yn ôl yr arolygon diweddara'.
Dywed Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod y galw yn y farchnad wedi aros yn gyson ym mis Mawrth, wrth i bobl yn prynu am y tro cynta' geisio gwneud hynny cyn i'r amodau talu treth stamp newid ar Fawrth 24.
Mae'r cyfnod o dalu 1% o dreth ar eiddo gwerth rhwng £125,000 a £250,000 bellach wedi dod i ben.
Roedd nifer y tai newydd ddaeth ar y farchnad yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog.
Yn ôl RICS, roedd nifer yr ymholiadau am dai wedi parhau i gynyddu, gyda 4% yn rhagor o syrfewyr yn dweud bod y galw wedi cynyddu yn hytrach na lleihau.
Ond ychwanegon nhw fod prisiau'n dal i fynd i lawr ar draws Cymru, er bod hynny ar raddfa arafach nag yn y misoedd diwetha'. Y darogan yw y bydd y patrwm hwn yn parhau.
Dywedodd y sefydliad fod 19% yn rhagor o syrfewyr wedi cofnodi bod prisiau'n gostwng yn hytrach na chodi - y ganran leia' ers mis Ionawr 2011 - ond mae disgwyl y bydd llai o dai yn gwerthu dros y tri mis nesa'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012