Cwmni o Rwsia am ddatblygu atomfa ar safle'r Wylfa?
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rai adroddiadau bod cwmni niwclear o Rwsia yn ystyried datblygu atomfa ar safle'r Wylfa ar Ynys Môn.
Ym mis Mawrth cyhoeddodd y cwmnïau o'r Almaen, E.on ac RWE npower, eu bod yn chwilio am berchennog newydd i Horizon Nuclear Power, y cwmni oedd wedi ei ddewis ar y cyd i ddatblygu Wylfa B.
Mae'r cwmni o Rwsia, Rosatom, yn codi atomfeydd newydd yn India ar hyn o bryd.
Ond dywedodd swyddogion gwasg RWE npower ac E.on mai "dyfalu" oedd yr adroddiadau am ddiddordeb y cwmni o Rwsia.
"Mae'r broses o werthu Horizon newydd ddechrau," meddai llefarydd ar ran RWE npower.
Dywedodd llefarydd ar ran mudiad PAWB: "Mae Rosatom - y cwmni niwclear dan reolaeth y Kremlin - wedi gofyn am gyngor y cwmni cyfrifyddion KPMG ar fentro neu beidio i fuddsoddi mewn gorsafoedd niwclear newydd ym Mhrydain.
"Cyngor KPMG i RWE flwyddyn a hanner yn ôl oedd nad oedd pris llawr carbon yn ddigon ynddo'i hun i gyfiawnhau buddsoddi mewn gorsafoedd niwclear newydd.
"Rosatom oedd yn gyfrifol am orsaf Chernobyl adeg y drychineb yno."
Costau
Ar un adeg roedd Wylfa B yn rhan o gynllun Horizon i greu sawl atomfa i gynhyrchu 6,000MW o ynni ym Mhrydain, gan eu bod yn ystyried Prydain fel lle oedd ag agwedd fwy cyfeillgar at ynni niwclear na nifer o wledydd eraill.
Ond roedd y cwmnïau wedi mynegi pryder yn ddiweddar am gostau'n cynyddu fel yn achos cynlluniau niwclear eraill yn Ewrop.
Roedd Horizon Nuclear Power wedi gobeithio dechrau ar gynllun i godi atomfa gwerth £8 biliwn yn y Wylfa erbyn diwedd 2012.
Byddai'r cynllun wedi creu 5,000 o swyddi adeiladu wrth godi'r atomfa, gyda rhwng 800 a 1,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn yr orsaf pan fyddai'n agor yn 2020.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn ddydd Mercher: "Mae'r Wylfa yn parhau i gynrychioli'r safle gorau ym Mhrydain ar gyfer pwerdy niwclear newydd ac rydym yn deall bod datganiad o ddiddordeb cryf mewn prynu cwmni Horizon Nuclear Power.
"Byddwn fel Cyngor Sir, wrth gwrs, yn dymuno gwerthiant cyflym er mwyn sicrhau parhad i'r cynlluniau sydd eisoes wedi ei datblygu ar yr Ynys.
Ni fyddai'n briodol, fodd bynnag, i ni wneud sylw am gwmnïau unigol sydd yn mynegi diddordeb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012