Canser yr ysgyfaint ar gynnydd ymhlith menywod
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint ymhlith menywod yng Nghymru yn parhau i godi, yn ôl Cancer Research UK.
Cafodd tua 960 o fenywod yng Nghymru wybod bod ganddyn nhw ganser yr ysgyfaint yn 2009.
Mae hynny'n gyfradd o 38 menyw ym mhob 100,000 - yn 1975 roedd yn 19 menyw ym mhob 100,000.
Mae'r elusen yn dweud bod hyn o ganlyniad i'r nifer o fenywod oedd yn ysmygu yn y 1960au.
'Lladd hanner'
"Dyw hysbysebion tybaco heb ymddangos ar deledu yn y DU ers 1965, ond ni wnaeth hynny atal marchnata sigarennau," meddai Jean King, cyfarwyddwr rheoli tybaco Cancer Research UK.
"Mae technegau marchnata newydd, mwy soffistigedig, wedi denu cannoedd o filoedd i ddechrau'r arfer a fydd yn lladd hanner ysmygwyr hir dymor".
Mae canser yr ysgyfaint yn parhau yn fwy cyffredin mewn dynion yng Nghymru, gyda 1,300 o achosion wedi eu cofnodi yn 2009, sef 60 dyn ym mhob 100,000.
Mae 22% o ddynion yng Nghymru yn ysmygu.
1,800
Yn 2010, fe wnaeth bron i 1,800 o bobl farw o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru, 1,000 o ddynion a thua 800 o fenywod.
Yn gyffredinol, roedd nifer yr achosion canser a gafodd eu darganfod yn ystod y cyfnod o 15 mlynedd rhwng 1995-2009 yn dangos patrwm o gynnydd ar gyfer dynion a merched - 23% i ddynion ac 20% i ferched.
Ond o ystyried natur heneiddio poblogaeth Cymru, mae'r cynnydd yn 2.5% i ddynion a 10.0% i ferched, sydd llawer yn is na'r cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion newydd.
Mae gan ddyn, ar gyfartaledd, un siawns mewn saith o gael canser cyn cyrraedd 65 oed - gyda'r siawns yn cynyddu i un ymhob tri cyn 75 oed.
Ond mae gan fenyw un siawns mewn chwech o gael yr afiechyd cyn ei phen-blwydd yn 65 oed, a thri ymhob 10 o gael diagnosis cyn eu bod yn 75 oed.
Diagnosis
Mae'r oed cyfartaledd ar gyfer diagnosis wedi parhau'n gyson dros y 15 mlynedd - 69 oed i ddynion a bron yn 68 oed i fenywod.
Canser y fron oedd y mwya' cyffredin ymhlith merched, gan gyfri am dri o bob 10 achos yng Nghymru.
Mae un o bob 16 merch yn cael diagnosis canser y fron cyn ei phen-blwydd yn 65 oed, tra bod un ymhob 10 yn cael yr afiechyd cyn eu bod yn 75 oed.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gostwng nifer yr achosion o ganser, gan fuddsoddi mewn addysgu pobl am bwysigrwydd byw bywyd iach a rhaglenni sgrinio.
Mae tua 120,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser heddiw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011