Talu'n hirach i groesi'r pontydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y ddwy bont Hafren wedi cael caniatâd i gasglu tollau am bum mis ychwanegol.
Mae hyn yn golygu na fydd y pontydd yn trosglwyddo'n ôl i ofal y llywodraeth tan 2017 ar y cynhara'.
Mae Severn River Crossings wedi gwneud colledion am ddwy flynedd yn olynol, gan ddweud fod llai yn croesi'r dyddiau hyn.
Mae angen casglu £33 miliwn cyn daw'r cytundeb i gynnal y ddwy bont i ben.
£6.00
Fe ddaeth pris newydd i yrwyr groesi'r ddwy bont dros Afon Hafren i rym ar Ionawr 1 2012.
Mae'r newidiadau yn ddigwyddiad blynyddol, sy'n cyd-fynd â Deddf Pontydd Hafren 1992.
I geir roedd 'na gynnydd o 30 ceiniog wrth iddyn nhw orfod talu £6.00.
Mae gyrwyr faniau yn talu 60 ceiniog yn fwy sef £12.10 a gyrwyr lorïau trymion wedi gweld cynnydd o 90 ceiniog, i £18.10.
Mae'r Ddeddf Seneddol 1992 yn nodi bod rhaid i Ail Bont Hafren, a gostiodd £380m, gael ei hariannu yn breifat yn hytrach na drwy drethi.
Mae tollau ar y bont gyntaf wedi bod mewn grym er 1966.