Cynllun iechyd meddwl yn recriwtio 100 gwirfoddolwr
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect ymchwil sy'n ceisio deall a gwella gofal a thriniaeth iechyd meddwl yng Nghymru wedi datgan eu bod wedi recriwtio 100 o wirfoddolwyr.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (GGIM) yn bwriadu recriwtio 6,000 o wirfoddolwyr ar gyfer eu gwaith ag academyddion a gweithwyr yn y sector iechyd.
Mae'r ganolfan am gael pobl sy'n dioddef ystod eang o anhwylderau gan gynnwys awtistiaeth, sgitsoffrenia a chlefyd Alzheimer.
Dywedodd cyfarwyddwr GGIM, Yr Athro Nick Craddock o Brifysgol Caerdydd: "Mae ein hymchwil am ddefnyddio profiadau cleifion."
'Codi ymwybyddiaeth'
Cafodd y ganolfan ei lansio ym mis Gorffennaf y llynedd a chafodd ei hariannu gan grant o £3 miliwn gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwirfoddolwyr yn ymuno â Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru (RHIMC) gafodd ei sefydlu i astudio'r ffactorau biolegol, seicolegol a ffordd o fyw sy'n cyfrannu at y problemau iechyd meddwl sy'n cael eu profi gan rai pobl.
Un o'r bobl gyntaf wnaeth gofrestru ar gyfer y cynllun oedd, Colin Robins, 44 oed, o Gaerdydd sy'n dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).
"Roedd y broses yn rhwydd a dymunol ac fe fyddwn i'n annog pobl eraill i gymryd rhan i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd na ddylai iechyd meddwl fod yn bwnc tabŵ.
"Nid yw rhai pobl yn gwybod beth yw PTSD o hyd ac mae'n rhaid i'r sefyllfa honno newid."
Dywedodd yr Athro Craddock fod gwirfoddolwyr o bob oedran yn cael eu cyfweld am 20 munud gan ymchwilydd, yn aml mewn cartrefi eu hunain neu mewn canolfan iechyd lleol.
"Yn y gorffennol mae hi wedi bod yn anodd i bobl drafod eu problemau iechyd meddwl i helpu pobl eraill ond rydym am newid y sefyllfa hon," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2012