700 o gartrefi newydd i greu swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni nid-am-elw wedi cael ei sefydlu i godi 700 o gartrefi ar safle 53 erw yng Nghaerdydd.
Bydd y cwmni, a sefydlwyd trwy gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Adeiladu'r Principality, yn datblygu safle hen felin bapur Pont Elái.
Mae disgwyl y bydd y cynllun yn arwain at £100 miliwn o fuddsoddiad ar y safle gan greu cannoedd o swyddi adeiladu.
Mae'r cynlluniau, sydd eto i fynd gerbron swyddogion cynllunio, yn cynnwys ysgol newydd hefyd.
Y disgwyl yw y bydd tai fforddiadwy yn cael eu cynnig ar renti sy'n gyfartal neu'n is na'r graddfeydd lwfans tai lleol.
Mae'n bosib y bydd rhai o'r cartrefi'n cael eu cynnig ar delerau cymorth perchnogaeth er mwyn cynorthwyo teuluoedd ifanc i gael lle yn y farchnad dai.
'Arloesol'
Enw'r cwmni nid-am-elw a sefydlwyd yw Cwmni Datblygu Pont Elái.
Bydd ganddo brif weithredwr a bwrdd gweithredu llawn, a gweinidogion Cymru fydd yr aelodau sefydlu.
Cafodd David Ward, pennaeth cynllunio'r cwmni ymgynghori a chynllunio dinesig Arup, ei benodi'n brif weithredwr dros dro i ddechrau, a dywedodd: "Mae hwn yn gynllun gwirioneddol arloesol sy'n gosod Cymru ar flaen y gâd o safbwynt cyflenwi tai.
"Mae tai fforddiadwy o safon uchel sy'n cael eu rheoli'n dda yn rhan allweddol o isadeiledd ein heconomi, gan gynnig swyddi uniongyrchol wrth eu codi, ac mae swyddi sefydlog mor hanfodol wrth gefnogi twf.
"Mae creu cymuned ddinesig sefydlog yr un mor bwysig, ac i'r perwyl hwn rydym yn ymroddedig i siarad gyda'r gymuned leol wrth gynllunio a gweithredu'r cynllun yma."
'Budd enfawr'
Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Cymru: "Mae defnyddio tir y sector cyhoeddus i gynyddu faint o dai fforddiadwy sydd ar gael yn allweddol i gwrdd â'r galw cynyddol am gartrefi.
"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu gweithio gyda'r Principality wrth greu'r model arloesol yma, a fydd nid yn unig yn darparu tai sydd dirfawr eu hangen, ond yn dod â budd enfawr i'r gymuned hefyd."
Dywedodd prif weithredwr grŵp y Principality, Peter Griffiths: "Rydym o'r farn sicr y gallai darparu'r math yma o fodel rhentu gael ei ailadrodd ar safleoedd eraill yng Nghymru er mwyn datrys rhai o'r problemau gyda'r farchnad dai ar hyn o bryd."
Cafodd y cwmni newydd fenthyciad o £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn bwrw 'mlaen gyda'r datblygiad, a chytundeb amodol i brynu'r tir.
Gallai'r gwaith ar y safle ddechrau erbyn mis Hydref os daw caniatâd cynllunio gan Gyngor Caerdydd.
Bydd y gwaith o godi tai wedyn yn dechrau yn ail chwarter 2013, a'r cynllun yn cael ei gwblhau erbyn 2017.
Mae rhannau eraill o'r datblygiad yn cynnwys parc newydd ar lan yr afon, cwblhau llwybr beicio Trelái a dadlygru safle gwag mawr yng Nghanol Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012