Ysbyty 'wedi newid cofnod i guddio bai'
- Cyhoeddwyd
Mae ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall, wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dilyn y driniaeth a gafodd dyn 80 oed yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Nid oedd yr ysbyty wedi cofnodi manylion pwysig am gyflwr iechyd y dyn, yn benodol manylion am lefel y siwgr yn ei waed gan ei fod yn diodde' o ddiabetes.
Bu farw'r dyn rai misoedd ar ôl gadael yr ysbyty, ond cafodd drawiad ar ei galon yn ystod ei gyfnod yno.
Ar y pryd roedd yr ysbyty dan ofal Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda cyn iddo droi yn Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn Hydref 2009.
Lefel siwgr
Daeth cwyn i swyddfa'r ombwdsmon gan ferch y dyn, ac fe gadarnhawyd y gwyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Cafodd y dyn - sy'n cael ei adnabod yn adroddiad yr ombwdsmon fel Mr T - ei gludo i Ysbyty Bronglais ym mis Rhagfyr 2008. Roedd ei wraig a'i ferch yno gydag ef.
Oherwydd y diabetes, roedd ymgynghorydd yno wedi gorchymyn y dylid gwirio'r lefel siwgr yn ei waed bob pedair awr, a rhoi inswlin iddo fel bod angen.
Ond wedi ychydig dros ddiwrnod yn yr ysbyty, roedd y lefel wedi mynd yn rhy isel. Chwydodd Mr T, ac fe arweiniodd hynny ato'n cael trawiad ar y galon.
O hynny ymlaen roedd angen gofal 24 awr arno. Yn Ebrill 2009, cafodd ei drosglwyddo i gartref gofal, ond bu farw yno ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.
Yn ei chwyn i'r ombwdsmon, dywedodd merch Mr T fod tystiolaeth bod nyrsys wedi newid cofnodion o lefelau siwgr ei thad er mwyn cuddio methiannau - cytunodd Mr Tyndall.
Argymhellion
Dywedodd hefyd nad oedd ymchwiliad mewnol yr ysbyty i'r gwyn yn ddigonol, ac fe wnaeth nifer o argymhellion i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Yn eu plith mae argymhelliad y dylai'r Bwrdd dalu £1,700 i deulu'r dyn fel cydnabyddiaeth o'r ansicrwydd ynglŷn â sut y gallai'r methiannau fod wedi effeithio ar iechyd Mr T.
Dywedodd y dylai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda ymddiheuro mewn llythyr at y teulu am yr anghyfiawnder a gofnodwyd yn yr adroddiad.
Mae hefyd wedi argymell nifer o adolygiadau, archwiliadau a hyfforddiant, ac mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cytuno i weithredu'r argymhellion.
Ychwanegodd yr ombwdsmon y byddai'n anfon copi o'i adroddiad i Arolygaeth Iechyd Cymru er mwyn i'r corff hwnnw fedru ystyried ei bryderon wrth gynllunio archwiliadau yn y dyfodol.
Ymateb
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth, Caroline Oakley: "Gwnaeth y gofal a gafodd ei gynnig i'r claf hwn gwympo o dan y safonau a ddisgwylir ac felly hoffwn ymddiheuro i'r teulu unwaith eto ar ran y Bwrdd Iechyd.
"Rydym yn derbyn yn llwyr yr hyn a gafodd ei ddarganfod yn yr adroddiad ac rydym wedi cymryd camau gweithredu yn syth er mwyn osgoi bod rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.
"Ers 2008, sef adeg y digwyddiad hwn, rydym wedi sefydlu sawl mesur, gan gynnwys hyfforddiant ychwanegol i nyrsys gofal diabetes ac adolygiad o offer monitor gwaed.
"Rydym wedi ymrwymo i welliannau parhaus, yn benodol ar gyfer y nifer gynyddol o gleifion sy'n byw gyda chyflyrau cronig, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar y claf ar gyfer pob unigolyn dan ein gofal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011