Etholiad: 'Amser anodd' i'r gwasanaethau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Yn y drydedd o saith erthygl am rai o awdurdodau allweddol yr etholiadau lleol ar Fai 3, Sarah Easedale sy'n bwrw golwg ar fater sy'n bwysig i etholwyr yn Wrecsam.
Mae'n gyfnod hynod anodd i wasanaethau cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol Cymru.
Gyda'r boblogaeth yn heneiddio a chynnydd yn yr achosion sy'n cael eu cyfeirio at y Gwasanaethau Plant, mae'r cyfan yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau er bod cyllidebau yn cael eu tynhau.
Yn ei adroddiad blynyddol, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Wrecsam, Andrew Figiel, eu bod wedi cyflawni "cynnydd positif" dros y flwyddyn ddiwethaf a'u bod "yn barod ar gyfer yr heriau sydd o'u blaen".
Ond beth yw'r rhain?
Yn ôl Mario Kreft, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, un o'r pryderon mwyaf yw nad yw cyllidebau gofal cymdeithasol ar draws Cymru wedi tyfu i gyd-fynd â'r costau cynyddol wrth ddarparu gofal preswyl.
Mae Cyngor Wrecsam wedi cyd-weithio â chynghorau Sir Y Fflint a Sir Ddinbych i gytuno ar "strwythur cost cartref gofal tryloyw" a fydd yn cychwyn ar £430 yr wythnos, yn ôl Mr Kreft.
Newid agwedd
Ychwanegodd y byddai hynny yn arwain at lai o leoedd yn y system a gyda'r galw yn cynyddu mae 'na gynnydd sylweddol yn y gyllideb.
Ond mae awdurdodau lleol wedi newid eu hagwedd tuag at ofal yr henoed ac anabl.
Y flaenoriaeth bellach yw cadw pobl yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gyda chefnogaeth lle mae hynny'n bosib.
"Mae'n rhatach ac yn rhan bwysig o ofal cymdeithasol ond mae angen iddo fod yn addas ar gyfer yr unigolyn neu fe fydd 'na berygl o gael eu heithrio yn gymdeithasol," meddai Mr Kreft.
Pryder arall i awdurdodau lleol yw gofal dementia.
Yn ôl y Fforwm, mae angen i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ganfod adnoddau ychwanegol a chydweithio er mwyn gofalu am y nifer cynyddol o gleifion dementia.
Cyllid
Ond o le y bydd yr adnoddau yn dod?
Fe dderbyniodd Cyngor Wrecsam yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel "cyllideb galed" o £184 miliwn ar gyfer 2012-13, cynnydd o 1.2% ar y flwyddyn flaenorol.
Mae cyllideb Gofal Cymdeithasol Oedolion am y flwyddyn wedi codi ychydig dros £1 miliwn i £41,038,838.
Ond gyda phoblogaeth o 130,000 o bobl, a rhyw 20% ohonyn nhw ag anableddau, mae'n rhaid i'r cyngor wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario'n deg.
Ond mae'n ymddangos, er gwaetha'r cyd-weithio, y bydd rhaid i Gyngor Wrecsam - fel awdurdodau lleol eraill - barhau i ddibynnu ar y sector wirfoddol, cynhalwyr di-dâl, a pherthnasau.