Y llwybr i'r gorffennol pell
- Cyhoeddwyd
Bydd llwybr newydd sy'n cael ei gynllunio ar gyfer Ynys Môn yn mynd â cherddwyr yn ôl mewn hanes - hyd at 860 miliwn o flynyddoedd CC.
Yr adeg honno roedd Ynys Môn yn rhan o gyfandir Antarctica ac mae'r ynys yn dal i symud 3cm y flwyddyn tuag at Rwsia.
Bydd y llwybr yn cynnwys adrodd stori Sant Padrig sefydlodd eglwys yn Llanbadrig yn y 5ed ganrif yn y "llecyn mwyaf tangnefeddus ar wyneb daear," yn ôl y Dalai Lama.
Daeth y syniad am y llwybr gan grŵp GeoMôn, yn benodol ei sefydlydd Dr Margaret Wood.
Ei nod yw sefydlu'r ynys fel parc daearegol byd-eang ac mae Dr Wood eisoes wedi darganfod ffosiliau Cyn-Gambriaidd yn y creigiau ar hyd yr arfordir.
Dyma'r ffosiliau hynaf i'w darganfod ym Mhrydain ac maen nhw'n dyddio'n ôl i 800-860 miliwn o flynyddoedd CC.
'Cyffrous'
Mae ei chynllun yn cynnwys troi llwybr presennol rhwng Penrhyn Wylfa ac Eglwys Llanbadrig yn llwybr daearegol, diwylliannol a hanesyddol.
Dywedodd: "Mae'n gyffrous iawn meddwl bod posibilrwydd sbarduno'r cynllun ac rwy'n obeithiol y bydd yn cael ei wireddu.
"Mae'r rhan yma o arfordir Môn yn gyffrous o safbwynt daearegol. Ei wneuthuriad yw math o graig o'r enw melange, cymysgedd o greigiau bach a mawr iawn - rhai cymaint â hanner cilomedr ar draws.
"Nod y cynllun ar hyd y llwybr o Wylfa i orllewin Bae Cemaes yw gosod enghreifftiau o'r mathau gwahanol o graig gyda nodiadau gwybodaeth yn cyfeirio at oed a math ac eglurhad am y creigiau.
"Bydd y creigiau'n cael eu gosod yn ôl eu hoedran ac fe fyddai'r bwlch rhyngddyn nhw yn adlewyrchu'r cyfnod daearegol rhyngddyn nhw."
Twristiaeth
Cafodd grŵp GeoMôn gefnogaeth WINSENT (Wales Ireland Network for Social Entrepreneurship) ac mae'r cynllun yn cael ei ystyried yn un pwysig wrth ddatblygu twristiaeth ar Ynys Môn.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Bryan Owen: "Mae twristiaeth ddaearegol yn weithgaredd sy'n tyfu ac mae daeareg drawiadol Ynys Môn yn rhoi cyfle i ni fanteisio ar y farchnad dwristiaeth gynaliadwy yma.
"Mae'r cynllun yn ymgais i ychwanegu gwerth at agenda dwristiaeth Ynys Môn drwy annog mwy o ddealltwriaeth o'n treftadaeth ddaearegol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd."