Cyfarfod cyhoeddus i drafod cynlluniau twneli newydd posib i Frynglas

  • Cyhoeddwyd
Tagfeydd ger twneli BrynglasFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Brynglas yn adnabyddus am dagfeydd

Mae trigolion sy'n pryderu y gallai eu tai fod o dan fygythiad petai cynlluniau ar gyfer dau dwnnel newydd ar gyfer yr M4 fynd yn eu blaen, yn cynnal cyfarfod cyhoeddus.

Gallai hyd at 300 o dai a busnesau gael eu heffeithio, rhai eu dymchwel, o dan gynlluniau i godi twneli newydd ym Mrynglas, sir Casnewydd.

Un opsiwn yw'r twneli newydd o dan ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru i ateb problemau tagfeydd traffig yn yr ardal.

Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Nhŷ Brynglas am 6pm nos Wener.

Pedair lôn

Fe fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar Fehefin 6 ar ôl cael eu cyhoeddi ar Fehefin 6.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys yr opsiwn o godi dau dwnnel newydd ym Mrynglas, lle mae'r draffordd yn mynd i lawr i ddwy lôn i'r ddau gyfeiriad.

Fe fyddai'r twneli newydd yn caniatáu i'r draffordd gael ei lledu i bedair lôn i bob cyfeiriad rhwng cyffordd 24 a 29 dros 15 mlynedd ar gost o tua £550 miliwn.

Mae opsiynau eraill ar gyfer lleihau tagfeydd yn cynnwys ffordd ddeuol newydd i'r de o Gasnewydd.

Ac mae 'na opsiwn arall ar gyfer gwella'r gyffordd ar yr A48.

Mae'r draffordd wedi gorfod cau ar fwy nag un achlysur oherwydd damweiniau difrifol.

Yn ystod haf 2011 bu'n rhaid cau'r draffordd i'r ddau gyfeiriad, gan achosi tagfeydd ac oedi sylweddol, pan aeth lori ar dân y tu mewn i un o'r twneli sydd ym Mrynglas.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi pob opsiwn posib i bobl Casnewydd er mwyn taclo tagfeydd ond does yr un opsiwn yn cael eu gorfodi.

"Rydym yn annog pobl Casnewydd i ddweud eu dweud er mwyn i ni allu datblygu'r sefyllfa orau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol