Rhybudd am ddiogelwch terfynell LNG

  • Cyhoeddwyd
The LNG terminal near Milford Haven in PembrokeshireFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Tefynell LNG ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro

Mae Comisiwn Ewrop wedi cyflwyno rhybudd ffurfiol i Brydain dros bryderon am ddiogelwch tanceri sy'n defnyddio terfynellau nwy yn Aberdaugleddau.

Mae'n ymwneud â'r risg o danceri yn glanio yn y porthladd.

Mae'r Gorchymyn Asesiad Effaith Amgylcheddol yn galw am asesu'r risg a chyhoeddi'r canlyniadau.

Dywedodd cwmni South Hook LNG eu bod yn delio gyda'r mater, ac y byddai'n cynorthwyo os fydd angen.

Gofynwyd i Dragon LNG am sylw yn ogystal.

Mae BBC Cymru hefyd wedi gofyn i asiantaethau'r llywodraeth sy'n ymwneud â'r mater am sylw.

Dywedodd Mark Andrews, cyfarwyddwr materion corfforaethol gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau:

"Wrth baratoi am ddyfodiad LNG, mae'r awdurdod dros gyfnod o flynyddoedd wedi comisiynu a chynhyrchu asesiadau risg sy'n cydymffurfio'n llawn gyda safonau diogelwch y DU.

"O ganlyniad mae llongau LNG yn defnyddio'r porthladd yn gyson ac yn ddiogel.

Mae'r awdurdod yn parhau i weithio gydag awdurdodau'r DU wrth ddelio gyda Chomisiwn Ewrop ar sut y mae cyfathrebu'r materion yma."

Cam cychwynnol yw'r rhybudd allai arwain at weithredui pellach yn Llys Ewrop os na fydd Prydain yn cydymffurfio.

Dywedodd Joe Hennon o'r Comisiwn: "Mae'r methiannau dan sylw yn ymwneud â risg posib o danceri LNG yn cyrraedd a glanio yn Aberdaugleddau."

Mae cwmniau South Hook LNG a Dragon LNG yn gweithredu o ddwy derfynell wahanol ychydig filltiroedd o'i gilydd.

Dywedodd llefarydd ar ran South Hook LNG: "Rydym ar ddeall bod yr awdurdodau perthnasol yn delio gyda'r mater yma, ac fe fyddwn yn cynorthwyo os yw'n briodol i ni wneud hynny."

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r newyddion. Dywedodd Gordon Main o'r grŵp Safe Haven: "Mae'r newyddion yma o Gomisiwn Ewrop yn gam mawr ymlaen i ymgyrch naw mlynedd Safe Haven i gael atebion i faterion diogelwch yn Aberdaugleddau.

"Ers 10 mlynedd mae pobl sy'n byw yng nghysgod y datblygiadau yma wedi bod yn gofyn dydd ar ôl dydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn, i gael gwybodaeth am ddiogelwch llongau i fod ar gael i'r cyhoedd.

"O'r diwedd mae'n ymddangos y byddwn yn cael ein ffordd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gan fod yr achos yn ymwneud â dau awdurdod cynllunio yng Nghymru, fe fyddwn yn cynnig cymorth i lywodraeth y DU wrth ymateb i'r pryderon a godwyd."