Gwelyau haul: Traean yn torri'r gyfraith
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg newydd yn awgrymu bod 32% o salonau lliw haul yng Nghymru yn torri'r gyfraith trwy beidio gwirio oedran cwsmeriaid.
Ers Ebrill 2011, mae'n anghyfreithlon i ganiatáu i berson iau na 18 oed i ddefnyddio gwely haul mewn salon yng Nghymru.
Ond wrth baratoi arolwg, fe wnaeth Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol (CIEH) ymweliadau cyfrinachol ag 81 o salonau ar draws 12 awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi'n llawn yng nghynhadledd flynyddol CIEH yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Dywedodd eu cyfarwyddwr Julie Barratt: "Flwyddyn ar ôl cyflwyno gwaharddiad ar bobl dan 18 oed yn defnyddio gwelyau haul, mae'n frawychus bod cymaint o salonau lliw haul yn herio'r gyfraith.
"Mae'r ddeddf yn glir ac yn ddiweddar - does dim esgus dros beryglu iechyd pobl ifanc fel hyn.
'Dicter'
"Pe bai'r un canran o siopau alcohol neu dybaco yn anwybyddu'r gyfraith trwy werthu sigaréts neu alcohol o bobl dan oed, fe fyddai dicter cwbl ddealladwy.
"Mae CIEH wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer am ddeddfau i reoli'r defnydd o adnoddau lliw haul.
"Mae'r rhai sy'n defnyddio gwelyau haul yn cynyddu'r risg o ddatblygu canser y croen all beryglu eu bywydau, a hynny o 75%.
"Dylai pob perchennog salon lliw haul sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yno yn deall y gyfraith."
Roedd arolwg CIEH hefyd yn ystyried a oedd adnoddau lliw haul yn cydymffurfio gydag agweddau eraill o'r ddeddfwriaeth, gan gynnwys os oedd digon o wybodaeth i gwsmeriaid am ddiogelwch, a holiaduron yn gofyn cwestiynau iechyd pwysig.
Mewn 92% o'r adnoddau y bu CIEH yn ymweld â nhw, doedd y meysydd yma ddim wedi eu cyflawni'n ddigonol.
Bydd cynhadledd flynyddol deuddydd CIEH yn dechrau fore Mercher yng Nghaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011