Radio: Y deiliaid yn ennill trwydded darlledu yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae rheoleiddiwr y diwydiant darlledu, Ofcom, wedi dyfarnu'r drwydded fasnachol leol FM ar gyfer Ceredigion am y saith mlynedd nesaf.
Cwmni Town and Country Broadcasting sydd wedi llwyddo.
Derbyniodd Ofcom gais oddi wrth y deiliaid cyfredol, Radio Ceredigion, sy'n cael ei berchnogi'n llwyr gan gwmni Town and Country Broadcasting, a Radio Ceredigion 2012.
Bydd y drwydded gyfredol yn dod i ben ar Rhagfyr 13, 2012.
Rheolaidd
Dywedodd cais Town and Country y bydden nhw'n cynnig gwasanaeth newyddion lleol, cerddoriaeth a gwybodaeth ar gyfer Ceredigion ar gyfer y rhai sy'n 15 oed ac yn fwy - a rhaglenni Cymraeg rheolaidd.
Dywedodd cais Radio Ceredigion 2012 y byddai hanner eu rhaglenni yn Gymraeg a'r nod fyddai rhaglenni "yn adlewyrchu natur ddau-ddiwylliannol yr ardal," targedu pobl o bob oed a darparu gwasanaeth newyddion lleol drwy gydol y dydd.
Mae Martin Mumford, cyfarwyddwr rheoli Town and Country Broadcasting, wedi dweud: "Trefnodd Radio Ceredigion ymchwil cynulleidfa annibynnol i ganfod y detholiad gorau o raglenni.
"Rydym yn falch i ennill y drwydded ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd camau i weithredu canfyddiadau'r ymchwil cyn gynted â phosib."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Radio Ceredigion 2012 am eu hymateb.
Bydd Ofcom yn cyhoeddi datganiad cyn bo hir yn cyfeirio at ffactorau allweddol y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd fod cais cwmni Town and Country Broadcasting yn fwy "cynaliadwy'n ariannol" na chais Radio Ceredigion 2012.
Dileu
Ym mis Gorffennaf y llynedd cyhoeddodd Ofcom eu bod wedi gwrthod cais Town and Country Broadcasting i newid amodau eu cytundeb darlledu.
Roedd y cwmni am ddileu'r angen y dylai darllediadau sgyrsiol fod "tua hanner yn Gymraeg a hanner yn Saesneg".
Does dim rhaid i'r ceisiadau gynnwys cwota, faint o'r Gymraeg fyddai'n cael ei darlledu.
Ar y pryd dywedodd Ofcom fod rhaid iddyn nhw ystyried "deunydd lleol" fel rhan o'u canllawiau o dan y Ddeddf Gyfathrebu ond nad oedd rhaid iddyn nhw ystyried ffactorau ieithyddol.
Y gred yw na fydd uchafswm nac isafswm o gynnyrch Cymraeg.
Cynnyrch Cymraeg
Ychwanegodd llefarydd ar ran Ofcom y byddai Radio Beca yn cynnig cynnyrch Cymraeg.
Ym mis Ebrill cyhoeddodd Ofcom eu bod wedi cymeradwyo cais Radio Beca ar gyfer trwydded darlledu gymunedol yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.
Roedd cyfarwyddwyr Radio Beca hefyd ynghlwm wrth gais Radio Ceredigion Cyf.
Yn ôl Ofcom, byddai Radio Beca wedi gorfod ildio'r drwydded gymunedol pe bae Radio Ceredigion 2012 wedi ennill y drwydded am na fyddai'r un cyfarwyddwyr wedi gallu dal y ddwy drwydded.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012