Iaith: Bygwth gorfodi corff darlledu

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ofcom wedi derbyn dau gais ar gyfer y drwydded i reoli'r gwasanaeth radio masnachol yng Ngheredigion

Mae Gweinidog wedi bygwth gorfodi corff darlledu i ystyried lefel cynnwys deunydd Cymraeg wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol.

Dywedodd Leighton Andrews, sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, ei fod wedi rhoi mis i Ofcom a Bwrdd yr Iaith gytuno ynghylch y mater.

Mae'r bwrdd am i Ofcom gael dyletswydd statudol fyddai'n ystyried faint o gynnwys Cymraeg fyddai'n cael ei ddarlledu pan mae'r corff yn dyfarnu trwyddedau.

Eisoes mae Ofcom wedi derbyn dau gais ar gyfer y drwydded i reoli'r gwasanaeth radio masnachol yng Ngheredigion.

Y ddau yw Town and Country, sy'n dal y drwydded ar hyn o bryd, a chwmni cydweithredol Radio Ceredigion 2012.

Ym mis Gorffennaf y llynedd cyhoeddodd Ofcom eu bod wedi gwrthod cais Town and Country Broadcasting i newid amodau eu cytundeb darlledu.

Roedd y cwmni am ddileu'r angen y dylai darllediadau sgyrsiol fod 'tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg'.

Does dim rhaid i'r ceisiadau gynnig cwota o'r Gymraeg fyddai'n cael ei darlledu.

'Deunydd lleol'

Dywedodd Ofcom fod rhaid iddyn nhw ystyried "deunydd lleol" fel rhan o'u canllawiau o dan y Ddeddf Gyfathrebu ond nad oedd rhaid iddyn nhw ystyried ffactorau ieithyddol.

O ganlyniad hyd yn oed os yw'r Gweinidog yn gorfodi'r ddyletswydd ar Ofcom, ni fyddai'n gyfreithiol rwymol.

Mewn datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad dywedodd Mr Andrews: "Cafodd Cynllun Iaith Gymraeg Ofcom ei gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan Adran 14 Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

"Heddiw rwyf wedi ysgrifennu at Fwrdd yr iaith Gymraeg ac Ofcom i'w hysbysu fy mod i wedi penderfynu defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14 (4) Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gan ofyn i'r ddau gorff geisio cytuno ynghylch telerau Cynllun Iaith Gymraeg Ofcom ymhen mis."

Os na fydd Ofcom a'r bwrdd yn cytuno, meddai, byddai'n ystyried gosod cynllun fyddai'n golygu bod Ofcom yn gorfod ystyried yr iaith Gymraeg pan fyddai'r corff darlledu yn gwasanaethu'r cyhoedd.

Mae Bwrdd yr Iaith wedi dweud bod datganiad y Gweinidog yn "galonogol".

Dywedodd eu bod wedi gwrthod cymeradwyo cynllun iaith Ofcom am eu bod wedi gwrthod rhoi cymal yn eu cynllun iaith yn ymwneud ag ystyried natur ieithyddol gwahanol gymunedau yng Nghymru wrth lunio trwyddedau darlledu radio.

'Arwyddocaol iawn'

"Rydym eisoes wedi gweithredu ac ysgrifennu at Ofcom yn gofyn am gyfarfod er mwyn trafod hyn ar fyrder," meddai cadeirydd y bwrdd, Marc Phillips.

"Ein gobaith yw y bydd modd dod i gytundeb boddhaol gydag Ofcom ar hyn gyn gynted â phosibl, yn unol ag ewyllys y Gweinidog, er mwyn sicrhau cyfleoedd i bobl Cymru dderbyn gwasanaeth radio lleol yn eu dewis iaith."

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod penderfyniad Mr Andrews yn "arwyddocaol iawn".

Mae'r mudiad wedi bod yn herio penderfyniad y rheolydd Ofcom i wrthod gosod amodau iaith ar drwyddedu radio.

Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu'r mudiad: "Mae penderfyniad y Gweinidog i ddefnyddio ei bwerau o dan y ddeddf yn arwyddocaol iawn.

"Roedd Ofcom yn dadlau o hyd nad eu cyfrifoldeb nhw oedd hyn. Gobeithiwn yn fawr fod y cynllun iaith newydd, ddaw yn sgil y penderfyniad hwn, yn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg ar radio lleol.

"Mae'r ystod o orsafoedd sydd ar gael nawr yn Saesneg wedi ffrwydro tra bo'r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg wedi crebachu'n sylweddol. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol