DVLA wedi diswyddo tri o bobl
- Cyhoeddwyd
Fe ddiswyddodd asiantaeth drwyddedu'r DVLA dri o bobl yng Nghymru y llynedd am ddefnydd amhriodol o wefannau cymdeithasol.
Daeth yr wybodaeth wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Cafodd un ei ddiswyddo am wneud sylwadau anaddas am y DVLA a'i chwsmeriaid ar Facebook.
Cafodd un arall ei ddiswyddo am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr a beirniadu gwasanaeth cwsmeriaid y DVLA ar wefannau Facebook a Twitter.
Diswyddwyd y llall am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr ar Facebook.
Yn ogystal, cafodd un person rhybudd ysgrifenedig y llynedd am wneud sylwadau anaddas am gydweithiwr ar Facebook.
Yn 2009 a 2010 ni chymerwyd unrhyw gamau disgyblu oherwydd defnydd amhriodol o wefannau cymdeithasol.
Cyfrifiaduron
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Ni all staff gael mynediad i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol o gyfrifiaduron y DVLA.
"Mae'r safleoedd hyn wedi eu hatal.
"Er mwyn eglurder, ni fu unrhyw achos o gamddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol gan ddefnyddio cyfrifiaduron y DVLA yn ystod amser gwaith."
Yn gynharach eleni, fe ddatgelodd BBC Newyddion Ar-lein bod yr asiantaeth wedi diswyddo pump o bobl yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf am dorri'r Ddeddf Diogelu Data.
Roedd y pump wedi rhyddhau gwybodaeth i drydydd person, ac roedd pedwar ohonynt wedi edrych ar y gronfa ddata am gerbydau heb awdurdod i wneud hynny.
Ers dechrau'r 1970au mae'r DVLA wedi bod yn cadw cofnod o drwyddedau gyrwyr.
Mae'r asiantaeth, sy'n cyflogi dros 5,000 o bobl, yn cofrestru 36 miliwn o geir a 44 miliwn o yrwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2011