Dathliadau i nodi agor llwybr arfordirol

  • Cyhoeddwyd
AberystwythFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyb yr arfordir yn 870 o fitiroedd o hyd

Bydd llwybr arfordir Cymru yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i'r llwybr, sy'n 870 o filltiroedd o hyd (1400 km), ddenu 100,000 o ymwelwyr ychwanegol bob blwyddyn.

Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths wnaeth agor y llwybr yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig ym Mae Caerdydd am 11am.

Cafodd dathliadau tebyg eu cynnal yng nghastell y Fflint yn y gogledd ac ar brom Aberystwyth yn y canolbarth.

"Ers i'r prosiect hwn ddechrau yn 2007 rydym wedi creu dros 130 o filltiroedd o lwybr newydd ac wedi gwella dros 330 o filltiroedd o lwybr presennol," meddai Mr Griffiths.

"Bydd y llwybr yn sicr yn hwb enfawr i economïau lleol o amgylch ein harfordir."

Buddsoddi

I nodi'r achlysur mae Ramblers Cymru yn trefnu Taith Gerdded Arfordirol Fawr Gymreig ac yn cynnal cant o wahanol deithiau cerdded er mwyn sicrhau y bydd pobl yn cerdded ar hyd pob rhan o'r llwybr yn ystod ei benwythnos cyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi hyd at £2 filiwn y flwyddyn ers 2007.

Derbyniwyd £4 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop dros bedair blynedd yn ogystal.

Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn mynd o'r ffin â Lloegr yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.

Ar ôl ei agor, hwn fydd y llwybr arfordirol di-dor cyntaf yn y Byd o amgylch un wlad.

Ceir manylion am y teithiau cerdded sy'n cael eu trefnu ar wefan Cerddwyr Cymru, dolen allanol.

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), un ar bymtheg o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol