Addysg: Undeb yn beirniadu polisi bandio
- Cyhoeddwyd
Bydd prif athrawon yn mynegi eu gwrthwynebiad unwaith yn rhagor i'r polisi o fandio ysgolion uwchradd yng Nghymru mewn cynhadledd dros y penwythnos.
Dywed NAHT Cymru - undeb y prif athrawon - nad yw rhoi un gradd i ddynodi perfformiad ysgol yn fuddiol i rieni.
Ers y llynedd, mae ysgolion uwchradd wedi cael eu rhoi mewn un o bump o fandiau - a hynny wedi ei seilio ar berfformiadau arholiadau TGAU a phresenoldeb disgyblion yn yr ysgol.
Ym mis Mawrth fe wnaeth yr ysgolion yn y bandiau isaf gael addewid o arian ychwanegol er mwyn gwella safonau.
Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £10,000 i bob ysgol yn y ddau fand isaf.
Gwrthwynebiad
Eleni cyhoeddwyd fod cynlluniau i gyflwyno system debyg ar gyfer ysgolion cynradd wedi ei ohirio tan 2014.
Bydd cynhadledd flynyddol yr NAHT yn dechrau yn Harrogate ddydd Gwener.
Yno, bydd NAHT Cymru yn cyflwyno cynnig yn datgan gwrthwynebiad i'r polisi o fandio, ac yn cynnig system "cerdyn adroddiad " yn ei le.
Dywedodd Anna Brychan, cyfarwyddwr NAHT Cymru: "Dyw'r system ddim yn ddigon manwl er mwyn sicrhau bod adnoddau prin yn cyrraedd y llefydd hynny lle byddant o'r budd mwyaf."
Ychwanegodd fod yr undeb am weld system "cerdyn adroddiad", lle byddai graddfeydd yn cael eu gosod ar gyfer gwahanol agweddau o berfformiad ysgol.
"Byddai hwn yn rhoi gwell syniad i athrawon, rhieni ac awdurdodau lleol o wendidau a chryfderau ysgol, ac yn caniatau i adnoddau gael eu targedu yn effeithiol,"
'Adeiladol'
Ychwanegodd Ms Brychan fod y drefn bresennol yn drysu nifer o rieni, gydag arolygwyr Estyn yn dweud bod perfformiad rhai ysgolion yn "wych", ond wedyn yr un ysgolion yn cael eu gosod mewn band isel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gweinidog addysg Leighton Andrews wedi ei gwneud hi'n gwbl glir na fyddai yna unrhyw ailfeddwl.
"Rydym yn credu ein bod wedi cyflwyno proses gwerthuso sy'n adeiladol, ac yn caniatáu i ni dargedu adnoddu i wella perfformiad o fewn ein hysgolion," meddai.
"Rydym wedi dweud dro ar ôl tro nad yw bandio yn golygu labelu na chreu rhyw fath o gynghrair ar gyfer ysgolion.
"Y nod yw gosod ysgolion mewn grwpiau er mwyn nodi pa rai sydd angen cymorth a pa rai y gallwn eu hefelychu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012