Democratiaid: Colledion mawr

  • Cyhoeddwyd
Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Collodd plaid Kirsty Williams reolaeth ar gynghorau Caerdydd ac Abertawe i'r Blaid Lafur.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud bod pleidleiswyr wedi anfon neges at Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi i'r blaid ddioddef colledion mawr yn yr etholiadau.

Collodd plaid Kirsty Williams reolaeth ar gynghorau Caerdydd ac Abertawe i'r Blaid Lafur.

Dywedodd Ms Williams fod ymgyrch ei phlaid yn ymwneud â materion lleol ond mai gwleidyddiaeth yn San Steffan oedd yn denu sylw'r pleidleiswyr.

Er i'r Blaid Lafur fethu ag ennill rheolaeth gyflawn ar Gyngor Wrecsam, un o gadarnleoedd y Democratiaid Rhyddfrydol cyn yr etholiad, fe wnaethon nhw ennill nifer o seddi yno.

'Noson wael'

Fe gollodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd, Rodney Berman, ei sedd.

Dywedodd Ms Williams wrth BBC Cymru ei bod yn teimlo'n flin dros "cynghorwyr gweithgar" ei phlaid.

"Mae hon wedi bod yn noson wael i unrhyw blaid wleidyddol heb yr enw Llafur," meddai.

"Rydym wedi gorfod talu pris uchel oherwydd fe wnaethon ni wneud mor dda bedair blynedd yn ôl.

"Fe wnaethon ni frwydro'n galed i sicrhau bod yr etholiad yn ymwneud â materion lleol.

'Neges glir'

"Ond mae'r Blaid Lafur a'r cyfryngau yn dal i ganolbwyntio ar y sefyllfa yn San Steffan ac mae pobl wedi ymateb i hynny."

Ychwanegodd fod "pleidleiswyr Cymru wedi anfon neges glir at Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac ni allwn ni osgoi'r neges honno.

"Mae cost rheoli grym yn San Steffan yn uchel iawn ar hyn o bryd.

"Mae'n glir fod ein cydweithwyr yn San Steffan yn cymryd rhai penderfyniadau anodd ond nid yw manteision y penderfyniadau anodd hynny wedi dod i'r fei eto."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol