Arweinwyr pump o gynghorwyr wedi colli eu seddi
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod llwyddiannus i Lafur mae nifer o arweinwyr cynghorau Cymru wedi colli eu seddi.
Wrth i Lafur gipio Caerdydd collodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ei sedd ym Mhlasnewydd.
Daliodd Llafur eu gafael yn Rhondda Cynon Taf ond collodd arweinydd y cyngor, Russell Roberts, ei sedd.
Yn oriau mân bore Gwener roedd pump arweinydd wedi colli eu seddi, Allan Pritchard yng Nghaerffili, Keith Evans yng Ngheredigion, Jeff Edwards ym Merthyr Tudful, Gordon Kemp ym Mro Morgannwg a Ron Davies yn Wrecsam.
Dywedodd Mr Kemp wrth BBC Cymru fod y llywodraeth glymblaid yn San Steffan yn "wynebu penderfyniadau anodd" ond eu bod yn ei chael yn anodd gyfleu'r neges.
'Neges'
"Dydi'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan ddim yn cael eu hegluro a dydi'r neges ddim yn cael ei throsglwyddo i'r cyhoedd."
Collodd Mr Davies ei sedd i aelod Annibynnol yn Wrecsam. Yno collodd y Democratiaid Rhyddfrydol saith sedd.
Collodd Mr Evans ei sedd i Blaid Cymru na chafodd ddigon o gynghorwyr ar gyfer mwyafrif i arwain y cyngor.
"Dyna beth yw lecsiwn, rhaid i rywun ennill a rhaid i rywun golli.
'Talcen caled'
"Rhaid llongyfarch Peter Evans ond dwi'n gwybod bod talcen caled o'i flaen ac yn dymuno'n dda iddo fo ac i bobl Llandysul."
Dywedodd mai un pwnc oedd yn mynd â bryd pobl Llandysul, maes parcio di-dâl a llinellau melyn, a'i fod wedi talu'r pris.
"Dwi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu ac yn brwydro yn yr ardaloedd lle mae'r rhai a fu'n arwain y cyngor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012