Ysgolion: 'Rhaid cwtogi lleoedd gwag'
- Cyhoeddwyd
Rhaid torri nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion er mwyn arbed arian a gwella safonau medd y corff arolygu ysgolion, Estyn.
Dywed Estyn bod rhaid i awdurdodau lleol wneud mwy o ad-drefnu, neu gau, ysgolion sydd â nifer fawr o leoedd gwag.
Mae nifer y lleoedd gwag ar gynnydd gyda bron 10,000 yng Nghymru'r llynedd.
Dywed Estyn bod cynghorau "wedi bod yn araf i adnabod a chwblhau cynlluniau allai arwain at arbedion sylweddol".
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad gan y corff.
Mae'n gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i sicrhau bod digon o leoedd i ddisgyblion yn eu hysgolion.
'Tasg anodd'
Mae adroddiad Estyn yn cydnabod bod cydbwyso'r niferoedd ac osgoi lleoedd gwag yn gallu bod yn dasg anodd, ond mae'n dweud hefyd mai ychydig o welliant sydd wedi bod ers 2006 pan gafodd canllawiau eu cyhoeddi ar sut i fynd i'r afael â'r broblem.
Canfu'r adroddiad bod mwy o leoedd gwag yn 2011 nag oedd yn 2006, ac nad oes yr un awdurdod lleol wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddim mwy na 10% o leoedd gwag ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai ar rai awdurdodau lleol y maen nhw'n eu disgrifio fel "amharod" i wneud penderfyniadau anodd am gau ysgolion ac ad-drefnu.
Mae'n dadlau mai'r dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o ailgyfeirio arian tuag at wella safonau addysgol.
Ymhlith nifer o argymhellion, mae'n credu y gallai dull safonol o amcangyfrif cost lleoedd gwag gynorthwyo pobl i ddeall yr angen am newid.
Dywedodd prif arolygydd Estyn, Ann Keane: "Mae'n dasg anodd iawn oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y disgyblion cynradd, ond lleihad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
"Ond er hynny mae awdurdodau lleol wedi bod yn araf i adnabod a chwblhau cynlluniau allai arwain at arbedion sylweddol."
Dywedodd bod rhaid i Lywodraeth Cymru a'r cynghorau lleol "asesu effaith addysgol ac ariannol cynlluniau rhesymoli blaenorol ac effaith parhaus lefelau uchel o leoedd gwag ar bob agwedd o ariannu gwelliannau ysgolion".
'Priodol neu ormodol?'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn croesawu'r adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.
Dywedodd llefarydd y byddai'n ymateb i'r argymhellion, gan ychwanegu: "Rydym yn derbyn nad yw pob lle gwag yn ddireswm, ond rhaid i awdurdodau lleol ystyried os yw'r cyflenwad o leoedd ac, yn fwy penodol, nifer yr ysgolion mewn mannau penodol yn briodol neu yn ormodol.
"Ble mae modd trefnu ysgolion yn fwy effeithiol ac effeithlon, rhaid i awdurdodau lleol weithredu.
"Rhaid iddynt hefyd gynllunio'n ofalus, oherwydd mewn rhai mannau mae nifer y disgyblion ifanc yn y system wedi cynyddu dros y blynyddoedd diweddar".
'Anetholedig'
Ond wrth ymateb, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio Estyn am "geisio gosod agenda gwleidyddol".
Dywedodd llefarydd y gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis: "Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ers yr etholiadau lleol, ac mae'r corff anetholedig Estyn eisoes wedi ceisio gosod yr agenda gwleidyddol trwy ddweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid cau ysgolion i gael gwared â lleoedd gwag.
"Dyma ran o batrwm cyfoes o gyrff anetholedig yn tanseilio democratiaeth gan honni o hyd "nad oes dewis".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011