Dylid 'ceryddu' yr Aelod Cynulliad Keith Davies
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad yn argymell i'r Cynulliad y dylid 'ceryddu' yr Aelod Cynulliad Keith Davies wedi ffrae feddw mewn gwesty pum seren.
Eisoes mae Keith Davies, sy'n cynrychioli Llanelli, wedi ymddiheuro ar ôl y digwyddiad yng Ngwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd ar Ebrill 23.
Roedd y gŵyn yn nodi methiant honedig i gydymffurfio â rhan o'r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, sy'n cynnwys yr egwyddor y dylai Aelodau "bob amser ymddwyn mewn ffordd a fydd yn cynnal a chryfhau ffydd a hyder y cyhoedd yn unplygrwydd y Cynulliad ac osgoi unrhyw ymddygiad a fydd yn dwyn gwarth ar y Cynulliad neu ar ei aelodau'n gyffredinol."
Wrth argymell y sancsiwn i geryddu, mae'r Pwyllgor yn gobeithio "anfon neges glir nad yw achosion o'r fath o fethu â chydymffurfio yn dderbyniol".
Roedd Mr Davies eisoes wedi ymddiheuro ac mae disgwyl iddo gyfaddef ei fod wedi goryfed a bod ei ymddygiad yn llai na'r hyn a ddisgwylir gan AC.
Ym Mehefin bydd y Cynulliad yn ystyried yr adroddiad ond mae rheolau'n golygu na all y Pwyllgor Safonau argymell cosb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012