Rosemary Butler yn gwadu diwylliant o yfed ymhlith ACau

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywydd y Cynulliad yn gwadu bod 'na ddiwylliant o yfed ymhlith ACau, ond dywed y dylai bod 'na fwy o aelodau er mwyn iddyn nhw ddelio gyda'r llwyth gwaith.

Roedd Rosemary Butler yn siarad ar drothwy diwedd ei blwyddyn gyntaf fel Llywydd.

Mae ymddygiad yr aelodau wedi bod o dan y chwyddwydr wedi ymddygiad Aelod Llafur Llanelli Keith Davies ar ôl noson allan ym mis Ebrill.

Wrth wadu bod 'na ddiwylliant o yfed ym Mae Caerdydd, dywedodd fod yr hyn yr oedd pobl yn ei wneud ar ôl gwaith yn fater iddyn nhw.

Dywedodd y dylai cerydd gan y Pwyllgor Safonau fod yn ddigon o gosb i Mr Davies.

Fe wnaeth Mr Davies, 71 oed, ymddiheuro ar ôl digwyddiad yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd.

Roedd o'n aros yn y gwesty lle mae nifer o ACau sy'n byw y tu allan i'r de ddwyrain yn aros pan mae'r cynulliad yn eistedd.

'Gwarth cyhoeddus'

Ar ôl noson allan - ddaeth i ben yn ôl llygaid dystion ym mar Live Lounge yng nghanol Caerdydd - fe ddychwelodd i'r gwesty.

Roedd hyn noson cyn cyfarfod llawn cyntaf y cynulliad ar ôl gwyliau'r Pasg.

"Mae gwarth cyhoeddus yn ddigon o gerydd i unrhyw un," meddai Ms Butler, sy'n AC Llafur Gorllewin Casnewydd.

"Mater i'r aelodau yw eu hymddygiad ond os ydyn nhw'n dwyn anfri ar y cynulliad yn y dyfodol fe fydd yn fater i'r Pwyllgor Safonau edrych ar y mater."

Pan ofynnwyd a oedd 'na ddiwylliant o yfed ymhlith ACau, dywedodd, "yn sicr nag oes".

"Does ganddo ni ddim bar yma.

"Pan mae 'na dderbyniadau amser cinio, dydan ni ddim yn annog pobl i gael alcohol.

"Mater i'r aelodau yw'r hyn maen nhw'n ei wneud ar ôl gwaith ond yn sicr dwi ddim yn fodlon dweud bod 'na ddiwylliant o yfed yma."

Roedd Ms Butler hefyd yn siarad am gynyddu nifer yr aelodau etholedig o 60 i 80.

Dywedodd y byddai hyn yn cynorthwyo gyda'r llwyth gwaith.

Ond fe wnaeth gyfadde' mai bach iawn o awch oedd 'na am hynny.

"Os nad ydach chi'n cyfri'r llywodraeth rydach chi'n lleihau nifer yr aelodau sydd ar gael i wneud y gwaith yn sylweddol," meddai Ms Butler.

"Mae gan nifer o gynghorau Cymru fwy o gynghorwyr na sydd ganddo ni o aelodau a llawer llai o gyfrifoldebau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol