Facebook: Rhybudd i ddau was sifil
- Cyhoeddwyd
Mae dau o weision sifil Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd am gamddefnyddio gwefan Facebook.
Y llynedd rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig terfynol i aelod staff am dorri cod y gwasanaeth sifil wedi iddo roi sylwadau amhriodol ar Facebook.
Yn 2010 rhoddwyd rhybudd anffurfiol i aelod am roi sylwadau negyddol ar Facebook am aelod arall, gan ddefnyddio cyfrifiadur personol.
Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
'Sianel gyfathrebu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Caiff y cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel sianel gyfathrebu ac felly mae staff yn eu defnyddio'n rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ohebiaeth Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf gan gyrff eraill sy'n cydweithio â nhw.
"Mae Polisi Cyfryngau Cymdeithasol yn weithredol ar sut y mae staff yn cyfrannu at wefannau cyfryngau cymdeithasol wrth weithredu yn rhinwedd eu swydd.
"Caniateir mynediad i'r cyfryngau cymdeithasol i ddibenion personol yn ystod oriau gwaith pan na chofnodir bod yr aelod staff yn gweithio e.e. amser cinio."
Dywedodd fod manylion am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol am resymau personol ym Mholisi Diogelwch Llywodraeth Cymru.
"Nid yw'r polisi wedi'i gyfyngu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ar beiriannau Llywodraeth Cymru yn unig ond mae'n cynnwys defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol y tu allan i oriau gwaith ar beiriannau eraill.
"Mae'r polisi yn atgoffa staff na ddylent ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru wrth ddefnyddio unrhyw rwydweithiau cymdeithasol neu safleoedd blogio hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith ar eu peiriannau eu hunain".
Torri deddf
Yn gynharach eleni datgelodd Newyddion Ar-lein fod Llywodraeth Cymru wedi torri'r Ddeddf Diogelu Data 10 o weithiau dros y tair blynedd ddiwethaf.
Rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig terfynol i aelod staff oedd wedi cael mynediad at flwch e-bost aelod uwch o staff a thrafod dogfen sensitif a welwyd gydag aelodau eraill o staff.
Mewn achos arall cafodd copi caled o ffeil ei ddwyn o gist car aelod o staff, cist a oedd dan glo.
Cafodd y ffeil ei chyflwyno i'r heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011