Prifysgol Caerdydd yn cyd-weithio gyda China ar ymchwil canser
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilydd cancer yn credu y bydd y cysylltiad rhwng Prifysgol Caerdydd a dau o'r canolfannau ymchwil canser mwya' yn China yn gallu arwain at gynnydd sylweddol o ran triniaethau.
Yr Athro Wen Jiang oedd yn gyfrifol am greu cysylltiad rhwng Ysgol Feddygaeth Caerdydd, Prfysgol Peking University a Phrifysgol Meddygol Capital yn Beijing.
Fe wnaeth Yr Athro Jiang raddio yn China ond mae wedi treulio'r 17 mlynedd diwethaf yn gweithio yng Nghymru.
Dywedodd y bydd y gwahaniaethau o ran canser yn y DU a China yn cael ei astudio.
Mae'n credu y bydd y fenter ar y cyd, nid yn unig yn creu'r gronfa orau o ran gweithredu, ond y bydd hefyd o gymorth i ddeall canser yn well drwy gymharu'r gwahaniaeth yn y cyflyrau sy'n cael eu diodde' gan gleifion ym Mhrydain a chleifion yn China.
"Mae gan China record wych mewn hyfforddi llawfeddygon medrus i safon ryfeddol mewn technegau sydd eisoes yn bodoli," meddai'r Athro Jiang.
Gwahaniaethau
"Gallwn ddeall llawer o raglen addysg China a'r nifer eithriadol o lawfeddygon sy'n cael eu cynhyrchu.
"I'r gwrthwyneb mae Prydain llawer mwy ar y blaen o ran ymchwil ac rydym mewn sefyllfa yng Nghaerdydd i rannu'r wybodaeth ddamcaniaethol..."
Ond mae'r Athro Jiang yn credu y gallai'r gwahaniaeth rhwng mathau mwya' cyffredin o ganser sy'n cael eu canfod ym Mhrydain ac yn China fod yn allweddol mewn gwaith ymchwil ar y cyd.
"Mae nifer o'r gwahaniaethau yn deillio o'n dewis ni o ffordd i fyw," meddai'r Athro Jiang.
"Rydym yn gweld ystadegau China yn agosáu at ffigyrau'r gorllewin wrth i'r economi ddod yn fwyfwy llewyrchus.
"Er enghraifft, roedd canser yr ysgyfaint 20 mlynedd yn ôl yn ffracsiwn o'r sefyllfa ym Mhrydain ond wrth i fwy a mwy o bobl China ddechrau ysmygu, mae 'na gynnydd.
"Yn debyg iawn, mae 'na gynnydd mewn canser y coluddyn wrth i gig coch fod yn fwy fforddiadwy.
"Ond mae 'na rai gwahaniaethau sy'n anoddach i'w ddeall ac mae angen mwy o ymchwil ar y cyd.
"Mae nifer yr achosion o ganser y fron yn China rhwng chwarter a thraean y nifer ym Mhrydain tra bod canser yr iau a'r stumog yn fwy cyffredin.
"Mae 'na lawer mwy o anghysondeb iddo fod yn ddewis ffordd o fyw yn unig ac felly mae angen i ni ddechrau edrych ar ffactorau geneteg."
Er mwyn nodi'r prosiect ar y cyn mae Prifysgol Peking wedi rhoi'r anrhydedd ucha' posib i'r Athro Jiang, yn ogystal ag i'r Athro Syr Martin Evans o Gaerdydd a enillodd Wobr Nobel am Feddygaeth yn 2007 ar ôl canfod nodweddion celloedd bonyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011