£5m i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Leighton AndrewsFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Leighton Andrews ei fod am weld yr iaith Gymraeg yn "ffynnu" trwy addysg

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd dros £5m yn cael ei roi i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y wlad.

Yn ôl y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ac Addysg, Leighton Andrews, caiff grantiau'r Gymraeg mewn Addysg eu dyfarnu i awdurdodau lleol yn flynyddol er mwyn eu cynorthwyo i wella a chynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Dywed y llywodraeth y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhoi hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg a hyfforddiant ar fethodoleg i athrawon ac ymarferwyr, ynghyd â rhoi cymorth pellach i'r rheiny sydd wedi cwblhau'r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg.

Byddai'r cyllid hefyd yn helpu i ariannu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r ysgol, fel cwisiau llyfrau Cymraeg, digwyddiadau a chyrsiau preswyl.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod £200,000 o gyllid ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau newydd eleni, gyda'r nod o wella'r dilyniant ieithyddol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a chynyddu'r nifer sy'n gallu cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae disgwyl i'r awdurdodau lleol gyfrannu arian cyfatebol sy'n werth o leiaf 33% o'r swm maen nhw'n ei dderbyn.

Dywedodd Mr Andrews: "Rwyf wedi ymroi i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu a hynny drwy roi mynediad i addysg Gymraeg i bobl a hefyd drwy greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r iaith y tu allan i gatiau'r ysgol.

"Bydd yr arian hwn yn datblygu ac yn cryfhau'r ddarpariaeth o ran addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru yn unol â'n Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol