£400,000 i addysg Gymraeg ail iaith

  • Cyhoeddwyd
Ysgrifennu CymraegFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhyw draean o ddysgwyr heb unrhyw gymhwyster cydnabyddedig yn y Gymraeg

Mae cynllun newydd gwerth £400,000 dros bedair blynedd wedi ei gyhoeddi er mwyn codi safonau a chyrhaeddiad ym maes addysg Gymraeg ail iaith.

Y bwriad yw cynnig hyfforddiant penodol i athrawon, ynghyd â rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r iaith y tu allan i wersi Cymraeg a sicrhau bod arferion da yn cael eu lledaenu.

Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC: "Nid yw safonau o ran addysg Cymraeg ail iaith mor uchel ag y dylent fod a bydd y cynllun hwn yn fan cychwyn i ni fynd i'r afael â hynny".

Mae'r Gymraeg yn bwnc statudol ac yn orfodol i bob disgybl hyd at 16 mlwydd oed. Er hynny mae safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith yn is nag mewn pynciau eraill yn yr ysgol gynradd ac nid oes digon o ddisgyblion yn dod yn eu blaenau'n dda mewn ysgolion uwchradd.

Estyn

Y prif reswm a roddir gan Estyn am hyn mewn ysgolion cynradd yw nad yw athrawon yn ddigon hyderus ac nid oes ganddynt yr wybodaeth i gyflwyno'r Gymraeg ar lefel briodol.

Mewn ysgolion uwchradd nid oes digon o gyfleoedd ar gael i ddisgyblion wella a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i wersi Cymraeg.

Mae rhyw draean o ddysgwyr sydd heb unrhyw gymhwyster cydnabyddedig yn y Gymraeg ac mae mwy o ymgeiswyr ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith yn dilyn y cwrs byr lle mae cyrhaeddiad yn isel.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Daeth arolwg yn gynharach eleni i'r casgliad bod hyd at 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn yng Nghymru

Mae'r cynllun gweithredu yn nodi pum amcan i fynd i'r afael â hyn:

  1. Rhannu arferion da a datblygu canllawiau i gyflwyno Cymraeg ail iaith ar lefel ysgolion cynradd, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith arferion da a chronfa ddata o ddeunyddiau addysgu.

  2. Annog mwy o addysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

  3. Gwella sgiliau ieithyddol a methodolegol athrawon a datblygu ymhellach raglen hyfforddi athrawon gynhwysfawr mewn Cymraeg ail iaith.

  4. Sicrhau bod gan ysgolion uwchradd yr adnoddau cywir a'r capasiti i adeiladu ar y Gymraeg a ddysgwyd mewn ysgolion cynradd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu deunyddiau addysgu newydd er mwyn mynd i'r afael â thanberfformio, yn arbennig ymhlith bechgyn, a sefydlu cwrs trochi i wella cyrhaeddiad dysgwyr sy'n astudio Cymraeg ail iaith ôl-16.

  5. Adolygu asesiadau a chymwysterau Cymraeg ail iaith er mwyn gweld pa gyfleoedd sy'n bodoli i sicrhau bod y cymwysterau presennol yn addas at y diben.

Ychwanegodd Mr Andrews: "Mae llawer o frwdfrydedd ac ewyllys da tuag at y Gymraeg ac rydym am gefnogi'r rheini sydd am ddysgu'r iaith a'r rheini sy'n addysgu'r iaith.

"Rydw i am sicrhau bod ysgolion yn rhannu arferion gorau ynghylch addysgu Cymraeg fel ail iaith a bod athrawon, yn arbennig mewn ysgolion cynradd, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni.

"Bwriad y cynllun hefyd yw rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio ac ymarfer yr iaith y tu allan i wersi Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn magu eu hyder i ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.

"Mae'r cynllun yn cefnogi'r amcanion yn ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gweledigaeth y llywodraeth hon yw gweld y Gymraeg yn ffynnu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol