Dwy ardal fenter arall i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Busnes Cymru wedi cyhoeddi y bydd dwy ardal fenter arall yn cael eu sefydlu yng Nghymru.
Roedd Edwian Hart eisoes wedi cyhoeddi y bydd yna bum ardal fenter i Gymru, sef Ynys Môn, Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glyn Ebwy a Sain Tathan.
Y ddwy ardal newydd yw Eryri ac ardal yr Hafan yn Sir Benfro.
Yn Nhrawsfynydd bydd y pwyslais ar y sectorau ynni, amgylchedd a thechnoleg a gwybodaeth.
Penderfynwyd ar Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Sir Benfro, oherwydd ei lleoliad strategol pwysig.
Ym mis Ionawr cyhoeddodd Ms Hart y bwriad o sefydlu dwy ardal fenter arall.
Cafodd yr Ardaloedd Menter gwreiddiol eu lansio'n swyddogol ar Ebrill 1.
Gweithlu amrywiol
"Cafodd Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Eryri eu dewis oherwydd eu pwysigrwydd strategol ac oherwydd bod yr hyn y maent yn ei gynnig mor unigryw," meddai Ms Hart.
Mae tua 30% o gyflenwadau ynni'r DU yn dod drwy Sir Benfro, ac mae disgwyl i'r ardal fenter ddatblygu safleoedd ynni cyfredol a rhai newydd posibl.
Cyn Orsaf Bŵer Trawsfynydd fydd canolbwynt Ardal Fenter Eryri.
Mae gan yr ardal weithlu amrywiol, profiadol a sefydlog.
"Yn sicr, mae'r Ardaloedd Menter ychwanegol hyn yn newyddion da i'r Canolbarth a'r Gorllewin, " meddai Ms Hart.
"Nid ennill statws Ardal Fenter yw'r cam olaf fodd bynnag - mae'n rhaid cynnal y momentwm a cheisio sicrhau bod ein Hardaloedd Menter yn cynnig cyfleoedd effeithiol, deniadol a pherthnasol i fusnesau."
Nick Bourne, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fydd Cadeirydd ardal Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.
John Idris Jones fydd cadeirydd ardal fenter Eryri.
Mae ganddo dros 30 o flynyddoedd o brofiad o weithio yn sector yr Amgylchedd ac Ynni ac fel rheolwr datblygu economaidd-ymdeithasol Magnox yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011