Cynghorau'n dileu dyledion o £15m
- Cyhoeddwyd
Fe roddodd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru y gorau i geisio casglu gwerth £9.6 miliwn o ardrethi busnes a £5.4 miliwn o dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Roedd hynny oherwydd dileu dros 26,000 o ddyledion unigol treth gyngor a thros 3,000 o ddyledion unigol ardrethi busnes.
Mae'r cynghorau wedi mynnu bod y "rhan helaeth o'r symiau sy'n ddyledus yn cael ei chasglu'n brydlon".
Mae'r dyledion treth gyngor a gafodd eu dileu yn amrywio o £1.6m yng Nghaerdydd a £594,254 yn Abertawe, i £20,581 ym Mhowys, £5,111 yn Wrecsam a £3,115 yn Ynys Môn.
Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
'Gwahaniaethu'
Dywedodd Robert Oxley o Gynghrair y Trethdalwyr: "Ar ôl degawd o godiadau treth gyngor, nid yw'n syndod bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd i'w thalu.
"Ond mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gwahaniaethu rhwng pobl sy'n ceisio osgoi talu a'r rheiny sy'n methu â thalu.
"Mae angen helpu'r categori olaf gyda ffyrdd haws o dalu, fel cael Debyd Uniongyrchol wedi ei rannu dros y flwyddyn tra dylid mynd ar ôl y categori cyntaf i gasglu yr hyn sy'n ddyledus".
£2.5m
Fe ddileodd Cyngor Abertawe ddyledion ardrethi busnes gwerth £2.5m y llynedd a dyledion treth gyngor gwerth £594,254.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r cyngor yn dilyn y broses adfer statudol ac yn anfon llythyrau atgoffa at holl dalwyr treth y cyngor a threthi busnes pan fydd rhandaliad yn orddyledus.
"Yn ystod 2011-12 gwysiwyd 14,772 o gyfrifon am beidio â thalu treth y cyngor a threthi busnes ac o'r rhai a wysiwyd rhoddodd Llys Ynadon orchmynion dyled yn erbyn 8,267.
"Os nad oes modd cytuno ar gymodiad talu derbyniol â'r sawl sy'n talu treth y cyngor/trethi busnes, mae'r rheoliadau'n caniatáu'r canlynol:
(a) Atodi Gorchmynion Enillion (treth y cyngor yn unig);
(b) Atodi Gorchmynion Budd-daliadau (treth y cyngor yn unig);
(c) Atafaeliad - cyfeirio i'r beilïaid;
(ch) Anfon i'r carchar;
(d) Gorchmynion tâl (treth y cyngor yn unig);
(dd) Methdaliad/Diddymiad.
Ychwanegodd bod dileu dyledion dim ond yn cael ei ystyried "ar ôl dihysbyddu'r holl opsiynau adfer".
Y prif resymau dros ddileu, yn ôl y cyngor, yw:
methdaliad/diddymiad dyledwyr;
methu olrhain dyledwyr;
dyledion cynhennus;
nad yw'n gost-effeithiol oherwydd dyledion gwerth isel iawn.
"Bob blwyddyn mae'r cyngor yn ceisio casglu amrywiaeth o filiau - megis rhenti, treth y cyngor, trethi busnes a hysbysiadau cosb - sydd yn werth dros £250 miliwn".
Mae ardrethi busnes hefyd yn cael eu galw'n ardrethi annomestig. Mae'r holl ardrethi busnes yn cael eu casglu a'u talu i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru. Maent wedyn yn cael eu rhoi'n ôl i awdurdodau lleol fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.
Fe wnaeth y cynghorau gasglu mwy na £900m mewn ardrethi annomestig y llynedd, yn amrywio o £12m ym Mlaenau Gwent i fwy na £179m yng Nghaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd14 Mai 2012
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012