Babanod i 'ddysgu' empathi i ddisgyblion cynradd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd babanod yn mynychu dosbarthiadau yn ysgolion cynradd Caerdydd er mwyn gwella empathi disgyblion a lleihau achosion o fwlio a thrais.
Mae'r cynllun yn gobeithio y bydd plant yn dysgu wrth wylio rhiant a babi yn y dosbarth.
Yn ôl adroddiadau mae plant sydd wedi cymryd rhan yn fwy tebygol o gynorthwyo eraill a dangos gofal.
Elusen Gweithredu Dros Blant sy'n cynnal y rhaglen.
Cafodd y cynllun ei ddatblygu gyntaf yn Canada.
Fe fydd tua 2,000 o blant ysgol yn cymryd rhan yn y cynllun, "Roots of Empathy" a fydd yn gweld rhiant lleol a babi yn ymweld â'r ysgol naw gwaith dros y flwyddyn ysgol.
'Perthynas dda'
Fe fydd y sesiynau yn cael eu harwain gan staff yr elusen.
Dywedodd Debra Ennis, rheolwr gwasanaethau'r elusen, fod y prosiect wedi cael ei gynnal yn llwyddiannus yn Yr Alban a bod grant gan y Loteri Fawr wedi eu galluogi i gyflwyno'r rhaglen yng Nghymru.
"Fe wnaethom ddewis Caerdydd am fod 'na berthynas dda eisoes gyda'r awdurdodau lleol a'n bod wedi cynnal nifer o raglenni yma.
"Rydym yn edrych ar awdurdodau lleol eraill, fel Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.
"Y gobaith yw cyflwyno'r rhaglen ar draws de Cymru.
"Mae'r canlyniadau yn Yr Alban wedi bod yn wych.
"Roedd gen i amheuon i ddechrau ond mae hyn wedi trawsnewid ymddygiad plant yn y dosbarth ac mae'r gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn wych."
Eglurodd bod 'na fachgen bach yn Yr Alban nad oedd yn cymysgu gyda phlant eraill ond ei fod wedi cymryd y babi a'i fod wedi dweud wrth yr athrawes bod y babi yn meddwl ei fod yn arbennig.
Teimladau
"'Does neb wedi meddwl mod i'n arbennig o'r blaen' oedd ei ymateb," ychwanegodd Ms Ennis.
"Roedd yn fodd i'r athrawon egluro bod pawb yn arbennig ac maen nhw wedi llwyddo i gael y bachgen i gyfathrebu."
Fe fydd 10 o ysgolion Caerdydd yn cymryd rhan yn y rhaglen i ddechrau a hynny mewn ardaloedd lle mae'r galw mwya ymhlith plant blwyddyn 5 a 6.
Am naw mis fe fyddan nhw'n cael tair sesiwn y mis, sesiwn baratoi, sesiwn efo'r fam a'r babi ac un wedyn.
"Mae'r rhaglen yma yn dysgu plant i ddeall eu teimladau eu hunain a theimladau eraill drwy ddefnyddio'r babi fel "athro bach," meddai Brigitte Gater, cyfarwyddwr gweithredol Elusen Gweithredu dros Blant.
"Mae'n codi lefel yr empathi ymhlith cyd-ddisgyblion, sy'n arwain at fwy o barch mewn perthynas â llai o drais ymhlith disgyblion ysgol".