Bale a Ledley allan

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale a Joe LedleyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale a Joe Ledley yn ddau o wynebau amlyca' pêl-droed Cymru

Fydd Gareth Bale a Joe Ledley ddim yn chwarae i Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd ar Fai 27.

Mae'r ddau ynghyd â David Vaughan (Sunderland), Darcy Blake (Caerdydd) a Neal Eardley (Blackpool) wedi eu hanafu.

Roedd enw Joel Lynch o Nottingham Forest eisoes wedi ei ychwanegu at y garfan.

Yn ymuno ag ef fydd Ashley Richards (Abertawe), Adam Henley (Blackburn) a Jermaine Easter (Crystal Palace).

Fe fydd golgeidwad Tranmere Rovers, Owain Fôn Williams, hefyd yn teithio i Efrog Newydd ar ôl i Lewis Price (Crystal Palace) dynnu'n ôl.

Mae Lynch, sydd heb ennill cap rhyngwladol, yn ennill ei le yn y garfan drwy ei dad a aned yn Y Barri.

Mae'n cymryd lle Neal Eardley yn y garfan.

Mae Eardley, a'r gôl-geidwad Wayne Hennessey, wedi eu hanafu.

MetLife

Doedd Lynch ddim ar y rhestr wrthgefn pan gyhoeddodd Coleman ei garfan ar Fai 10.

Ar y rhestr ar gyfer y daith i America y mae Craig Bellamy a chapten Cymru Aaron Ramsey.

Tri sydd ddim wedi eu henwi yn y garfan ar gyfer y daith i America yw Rob Earnshaw, Danny Gabbidon a James Collins.

Mae Coleman wedi mynnu bod y tri yn dal yn rhan o'i gynlluniau ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd.

Y gêm yn erbyn Mecsico yn Stadiwm MetLife fydd i bob pwrpas gêm gyntaf Coleman wrth y llyw.

Cafodd ei benodi fel rheolwr, gan olynnu Gary Speed, cyn y gêm yn erbyn Costa Rica.

Roedd y gêm honno ym mis Chwefror er cof am Speed ac fe benderfynodd Coleman y byddai'n cymryd cam yn ôl gydag Osian Roberts wrth y llyw mewn gêm emosiynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Carfan Cymru: Jason Brown (Aberdeen), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers), Rhys Taylor (Chelsea), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Henley (Blackburn Rovers), Joel Lynch (Nottingham Forest), Neil Taylor (Abertawe), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Adam Matthews (Celtic), Ashley Richards (Abertawe), Joe Allen (Abertawe), Aaron Ramsey (Arsenal), Andrew Crofts (Norwich City), Andy King (Leicester City), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Craig Bellamy (Lerpwl), Hal Robson-Kanu (Reading), Steve Morison (Norwich City), Simon Church (Reading), Jermaine Easter (Crystal Palace), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers).

Wrth gefn: Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), Billy Bodin (Swindon Town), David Cotterill (Barnsley .

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol