Ditectif preifat: Adroddiad beirniadol
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad wedi dweud mai camgymeriadau'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron oedd y rheswm am fethiant achos llys yn ymwneud â ditectif preifat o Gymru gafodd ei lofruddio yn Llundain chwarter canrif yn ôl.
Yn 2011 bu'n rhaid dirwyn yr achos i ben yn erbyn tri ar gyhuddiad o lofruddio Daniel Morgan gyda bwyell y tu allan i dafarn yn Llundain.
Ddydd Llun cyhoeddwyd adroddiad gafodd ei lunio ar ôl i chwe ymchwiliad yr heddlu fethu â dod o hyd i'r llofrudd.
Storfa
Mae'r adroddiad wedi dweud bod tri llond bocs o dystiolaeth bosib wedi eu cadw mewn storfa a heb eu rhyddhau i'r amddiffyn.
Oherwydd hynny bu'n rhaid i'r barnwr ddirwyn yr achos i ben.
Dywedodd adroddiad Heddlu Llundain a Gwasanaeth Erlyn y Goron fod cam-gymeriadau hefyd wedi eu gwneud wrth ddelio gyda rhai roddodd wybodaeth i'r heddlu.
Mae teulu Mr Morgan wedi dweud y byddan nhw'n galw am ymchwiliad cyhoeddus dan arweinyddiaeth barnwr i ymchwiliad yr heddlu.
Llwgrwobrwyo
Yn ôl rhai, cafodd y ditectif preifat ei lofruddio ar ôl iddo ddod o hyd i dystiolaeth o lwgrwobrwyo ymhlith yr heddlu yn ne Llundain.
Roedd rhai wedi honni mai heddlu llwgr arweiniodd at fethiant yr ymchwiliad i lofruddiaeth Mr Morgan.
Cafodd tri dyn eu cyhuddo o'r llofruddiaeth yn 2008 ond ar ôl 18 mis o ddadleuon cyfreithiol cafodd yr achos ei ollwng
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011