Ysbyty Tywysog Philip: Cyflwyno deiseb i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Côr Meibion Llanelli tu allan i'r SeneddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Roedd côr meibion Llanelli yn rhan o'r cannoedd o bobl oedd wedi teithio i Fae Caerdydd

Teithiodd cannoedd o bobl o ardal Llanelli i Fae Caerdydd er mwyn cyflwyno deiseb â 26,000 o enwau arni.

Nod y ddeiseb, un o'r mwya' i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yw galw ar y llywodraeth i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn y dre'.

Mae nifer wedi dweud eu bod yn poeni am ddyfodol yr uned ddamweiniau brys gan alw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i gadw'r uned.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru y bydd y Bwrdd yn cyflwyno eu cynigion yn ddiweddarach yn yr haf gan ychwanegu nad oes 'na gynlluniau i is-raddio'r ysbyty.

Ym mis Chwefror roedd 400 mewn cyfarfod cyhoeddus yn trafod eu pryderon am ddyfodol yr uned ddamweiniau.

Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ac nad oedd llawer o wasanaethau arbenigol yn yr ysbyty.

Mae'r Bwrdd wedi cyflwyno cynlluniau ym mis Rhagfyr gyda'r cynnig yn gweld yr uned frys yn troi yn "ganolfan gofal brys".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhaid i'r gwasanaeth iechyd newid a chyflwyno cynlluniau i ganoli rhai gwasanaethau.

'Gwrando'

Yn y cynlluniau a gyhoeddwyd i ail-edrych ar ddarpariaeth gofal brys yn ysbytai'r gorllewin a'r canolbarth fe fyddai gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn ar gael yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, neu Ysbyty Bronglais.

Mae'r Bwrdd wedi dweud eu bod yn "gwrando ar farn leol" cyn yr ymgynghori ffurfiol.

"Mae mwyafrif y gofal (80%) sy'n cael ei gynnig yn yr adran yn Llanelli'n ymwneud â mân driniaethau ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos," meddai datganiad y bwrdd iechyd.

"Fe fydd yr un gwasanaethau yn parhau yno yn y ganolfan gofal brys."

Cyngor Tref Llanelli oedd wedi talu am y bysiau i gludo trigolion i Fae Caerdydd, oedd yn cynnwys Côr Meibion Llanelli.

Roedd gwleidyddion o bob plaid yn y brotest hefyd, gan gynnwys AC Llafur y dref, Keith Davies.

Mae'r Blaid Lafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o "godi bwgannod" am ddyfodol yr ysbytai.

Erydu

Dywedodd Bryan Hitchman, cadeirydd Sosppan (Save Our Services Prince Philip Action Network), bod rhaid defnyddio synnwyr cyffredin.

"Mae'n gwneud synnwyr i gael triniaeth yn nes at adref," meddai.

"Fe allwn ni wynebu sefyllfa lle mae Llanelli yn anialdir i'r gwasanaeth iechyd.

"Mae gwasanaethau yn erydu i ffwrdd oddi wrthom."

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at fuddsoddiad posib o £20 miliwn yn yr ysbyty rhwng 2014/16 i ddatblygu gofal dethol a gwasanaeth triniaeth.

Mae tua £6 miliwn wedi ei wario ar ofal canser y fron yn y blynyddoedd diwethaf, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd Cymrunad yw am weld unrhyw wasanaeth yn cael ei is-raddio yng Nghymru.

Eglurodd bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwneud popeth posib i ymestyn y cyfnod o drafodaeth.

"Ond wrth gwrs, gallaf sicrhau pawb yn y siambr a thu allan, fy mod yn deall pa mor gryf mae pobl yn ei deimlo am wasanaeth gofal iechyd yn eu hardaloedd eu hunain.

"Dyw hyn ddim am adeiladau.

"Mae'n ymwneud â gwasanaethau a gwneud yn siwr bod ganddo ni wasanaethau go iawn ar gyfer pobl Cymru.

"Rydym yn ymwybodol bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy a bod rhaid newid."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol