Mewn llun: Pedwerydd diwrnod y Fflam yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Carwen Richards o Lanbedr Pont Steffan, sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn 18 oed, gafodd y cyfle i gludo'r Fflam i lawr Craig y Glais ar y trên ar bedwerydd diwrnod y Fflam yng Nghymru

Wedi teithio ar hyd y Prom fe aeth y Fflam i weddillion y Castell yn Aberystwyth wrth i Colin Davies ei chludo

Cafodd cyflwynydd Radio One, Chris Moyles, ddal y Ffagl a chludo'r Fflam drwy Aberystwyth ddydd Llun

Bridget James gyda'r Fflam y tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth

Gyda Ffagl Olympaidd 2012 yn ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol ddydd Llun cafodd ei chroesawu gan chwe ffagl o'r gorffennol. Mae’r ffaglau yn cynnwys rhai München 1972, Seoul 1988, Athen 1996, - ffagl wnaethpwyd gan Wlad Groeg i goffau camlwyddiant y Gemau modern ac i fynegi eu siom o beidio a chael eu gwobrwyo â’r gemau hyn, Atlanta 1996, Athen 2004 a Llundain 1948 (y tro diwetha i’r gemau ymweld â Llundain).

Sian Harries, sydd wedi gwella ar ôl torri ei chefn, yn cario'r Fflam dros y bont yn nhref Dolgellau wrth i'r Fflam anelu am Fangor

Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu ar y Stryd Fawr ym Mlaenau Ffestiniog ar ddiwrnod braf arall dros awr cyn i'r Fflam gyrraedd tref y llechi
.jpg)
Mae 'na faneri o wahanol wledydd i'w gweld ar y stryd ym Mlaenau Ffestiniog, rhai o'r gwledydd fydd yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd fis Gorffennaf, gan ddisgyblion Ysgol Manod yn y dref

Elin Owen o Lanrug gafodd y fraint o gludo'r Fflam ar y trên

Cafodd y Fflam ei chludo mewn lantern ar y trên i Bothmadog

Rhai wedi mynd i ysbryd y daith drwy wisgo fel pobl o Wlad Groeg a gwneud eu ffaglau eu hunain i groesawu'r Fflam i Orsaf Rheilffordd Porthmadog

Cadi Fôn yn cluo'r Ffagl drwy Gricieth gyda chymorth Crïwr y Dref i hysbysu'r dorf o ymweliad y Fflam

Sacha Jones, un o efailliaid gariodd y fflam ddydd Llun, o flaen colofn David Lloyd George yng Nghaernarfon, sy'n edrych fel ei fod o wedi colli ei Fflam

Allys Clipsham oedd un yn cario'r Fflam drwy Fangor ddydd Llun

Bryn Terfel gafodd danio'r Grochan yn Y Faenol wedi'r cymal olaf ar bedwerydd taith Y Fflam o Aberystwyth i Fangor
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012