Cyngerdd yn Stad y Faenol ar ddiwedd y daith

  • Cyhoeddwyd
Sacha a Leon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghaernarfon yr efeilliaid 17 oed o Benllech, Sacha a Leon Jones

Mae'r Fflam Olympaidd wedi cyrraedd Bangor ar ddegfed diwrnod taith y ffagl o gwmpas Prydain.

Am 5.50pm roedd Malcolm Jones, 61 oed o Dremadog, yn cario'r Fflam, fawr o her i rywun sy wedi gorffen Rasys Mynydd Eryri ers 37 mlynedd.

Un arall oedd yn cludo'r fflam oedd Sean Mcclearn, 44 oed o Fethesda.

Mae Sean yn weithiwr cymdeithasol ar Ynys Môn lle mae'n anelu at wella ansawdd bywyd pobl ifanc yn eu harddegau.

Tro Elin Haf Davies, 35 oed o'r Bala, oedd hi wedyn.

£250,000

Dywedodd y fenyw sy wedi rhwyfo ar draws Môr Iwerydd a Chefnfor yr India a chodi mwy na £250,000 i elusennau: "Dwi'n gyffro i gyd.

Elin Owen yn cael cludo'r Fflam ar y trên bach o Flaenau Ffestiniog i BorthmadogFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Elin Owen yn cludo'r Fflam ar y trên bach o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog

"Mae'n wych bod yr haul yn tywynnu yng Nghymru.

"Dwi'n gobeithio y bydd y Fflam yn ysbrydoli plant lleol i ymddiddori yn y campau.

"Gyda lwc, mi fydd un ohonyn nhw yn y Chwaraeon yn y dyfodol."

Roedd 84 o bobl wedi cludo'r Fflam rhwng Aberystwyth a Stad y Faenol lle mae cyngerdd arbennig nos Lun wedi i'r canwr Bryn Terfel gynnau'r crochan.

'Naid driphlyg'

Dywedodd Bryn: "Mi oeddwn i'n dipyn o giamstar ar y naid driphlyg a'r naid ucha yn ysgol."

"Mi oeddwn i'n dipyn o giamstar ar y naid driphlyg a'r naid ucha yn ysgol," meddai wrth BBC Cymru.

"Doeddwn i ddim yn ddrwg chwaith yn y 100 metr.

"Ond doeddwn i ddim yn dda yn rhedeg milltiroedd."

Dywedodd Maer Caernarfon ei fod yn gobeithio y byddai'r digwyddiad yn "hwb i gystadleuwyr Olympaidd y dyfodol".

Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Pobl Dolgellau'n croesawu'r Fflam

Yng Nghaernarfon yr efeilliaid 17 oed o Benllech, Sacha a Leon Jones, oedd yn cario'r Fflam i'r castell.

Dywedodd Sacha ei bod yn synnu ei bod hi wedi ei dewis.

'Ffantastig'

"Mi oeddwn i ar ben fy nigon oherwydd y broses ddewis ...," meddai.

Dywedodd Leon: "Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy newis.

"A deud y gwir yn onest, mae hyn yn ffantastig, cael fy newis efo fy chwaer allan o 8,000."

Roedd y Fflam wedi dechrau'r pedwerydd diwrnod yn Aberystwyth.

Tua 11.30am fe gyrhaeddodd y Fflam Llan Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog.

Ymhlith y torfeydd roedd disgyblion ysgolion lleol yn chwifio eu baneri o wahanol wledydd y byd ac wedi bod yn aros am fwy nac awr.

Carwen Richards o Lambed gyda'r Fflam yn AberystwythFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Carwen Richards gafodd y fraint o gludo'r Fflam i lawr Craig y Glais, Aberystwyth, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod yng Nghymru

Roedd baneri plant Ysgol Manod yn cynrychioli rhai o'r gwledydd fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd ym mis Gorffennaf.

Elin Owen o Lanrug gafodd y cyfle i gludo'r Fflam ar drên stêm Blaenau Ffestiniog i Borthmadog.

"Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar," meddai cyn y dasg.

"Mae'r cyffro wedi bod yn wych ac mae'r ffaith ei bod mor agos at adra yn rhywbeth arbennig."

Dywedodd Craig Duggan mai ar drên David Lloyd George yr oedd y Fflam yn cyrraedd Porthmadog.

'Cannoedd'

"Mae nifer sylweddol ar y platfform ond cannoedd mwy ar y stryd fawr," meddai.

Cyrhaeddodd y Fflam yr orsaf ym Mhorthmadog toc wedi 1.15pm ac fe gafodd ei chludo drwy'r stryd fawr cyn mynd ymlaen i Gricieth.

Ymhlith y rhedwyr yng Nghricieth roedd Ilan Davies, 16 oed o'r Bala.

Cafodd ei enwebu wedi iddo deithio 190 milltir bob penwythnos i weld ei dad, Brian 'Yogi' Davies, fu yn yr ysbyty am 18 mis wedi iddo gael ei barlysu mewn gêm rygbi ym mis Ebrill 2007.

"Roedd ei wedd bositif ar rygbi yn ysbrydoliaeth," meddai.

Gyda Ffagl Olympaidd 2012 yn ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol ddydd Llun cafodd ei chroesawu gan chwe ffagl o'r gorffennol. Mae'r ffaglau yn cynnwys rhai München 1972, Seoul 1988, Athen 1996, - ffagl wnaethpwyd gan Wlad Groeg i goffau camlwyddiant y Gemau modern ac i fynegi eu siom o beidio a chael eu gwobrwyo â'r gemau hyn, Atlanta 1996, Athen 2004 a Llundain 1948 (y tro diwetha i'r gemau ymweld â Llundain).Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Chwe ffagl o'r gorffennol yn croesawu Ffagl Olympaidd 2012 i'r Llyfrgell Genedlaethol

Eisoes roedd y Fflam wedi bod yn Nolgellau, Machynlleth ac Aberystwyth.

Yn nhref Owain Glyndŵr, roedd cannoedd o blant ysgol ymhlith y miloedd oedd yn gwylio.

Roedd y plant yn chwifio baneri, gan gynnwys rhai Powys, y Ddraig Goch a rhai'r Gemau Olympaidd.

Yn Nolgellau roedd cannoedd yn gwylio'r rhedwyr ar y Sgwâr a phlant yr ysgol gynradd yn eu cefnogi.

Yn eu plith roedd Sian Harries, athrawes sydd wedi gwella ar ôl torri ei chefn, sy'n rhoi gwersi pêl-rwyd ac athletau i'w disgyblion.

Carwen Richards oedd cludwr cyntaf dydd Llun i lawr Craig Glais yn Aberystwyth ar y rheilffordd ac ar droed.

'Deigryn'

"Ro'n i'n eitha' emosiynol yn ei gweld yn dod i lawr," meddai Gwyneth Richards, mam Carwen.

"Mae'r cyfan yn wych ac am fod Carwen yn ca'l dechrau'r daith rydyn ni gyd yn ymfalchïo yn ei llwyddiant a'r hyn mae'r Fflam yn ei olygu o ran hybu chwaraeon.

Cafodd cyflwynydd Radio One, Chris Moyles, ddal y Ffagl a chludo'r Fflam drwy Aberystwyth ddydd LlunFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyflwynydd Radio One, Chris Moyles, ddal y Ffagl a chludo'r Fflam drwy Aberystwyth ddydd Llun

"Roedd 'na ddeigryn neu ddau gen i."

Fe deithiodd y Fflam wedyn ar hyd y prom yn Aberystwyth a thrwy'r dref.

Bu am gyfnod yng nghastell y dref a thu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ymhlith y rhedwyr yn Aberystwyth roedd un o gyflwynwyr Radio One, Chris Moyles, sydd wedi bod yn dilyn taith y Fflam ers cyrraedd Lands End dros wythnos yn ôl.

Dywedodd fod 'na awyrgylch wych yn y dre' a'i bod hi'n brofiad breintiedig cael cario'r Fflam.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol