Mewn llun: Pumed Diwrnod Y Fflam yng NghymruCyhoeddwyd29 Mai 2012Disgrifiad o’r llun, Ar ddiwrnod braf arall, mae'r torfeydd wedi dechrau ymgasgu yn Stryd y Castell dros awr cyn i'r Fflam gychwyn yng Nghastell Biwmares ar Bumed Diwrnod y daith yng NghymruDisgrifiad o’r llun, Lorna Price oedd y cyntaf i gludo'r Fflam ddydd Mawrth gan gychwyn yng Nghastell BiwmaresDisgrifiad o’r llun, Aelodau Bad Achub Biwmares yn barod i gludo'r Fflam ar hyd Y Fenai i BorthaethwyDisgrifiad o’r llun, Y Fflam yn cael ei chludo ar Y Fenai gan aelodau Bad Achub BiwmaresDisgrifiad o’r llun, Elen Evans yn cludo'r Fflam ar y Bad Achub ar Y FenaiDisgrifiad o’r llun, Mari Davies gafodd gludo'r Fflam dros Bont Menai o Ynys Môn i'r tir mawrDisgrifiad o’r llun, Roedd torfeydd ar y tir mawr i groesawu Mari Davies gafodd gludo'r Fflam o Ynys MônDisgrifiad o’r llun, Sarah Thomas yn cludo'r Fflam drwy Gonwy gyda'r castell y tu ôl iddiDisgrifiad o’r llun, Roedd rhai cannoedd o bobl ar Yr Wyddfa i weld y Fflam yn cael ei chludo i'r copa gan Syr Chris BonningtonDisgrifiad o’r llun, Dyma'r lleoliad ucha y bydd y Fflam tra ar ei thaith drwy BrydainDisgrifiad o’r llun, Ian Turner yn cludo'r Fflam mewn car cebl o Ben y Gogarth i LandudnoDisgrifiad o’r llun, Plant ysgol ym Mharc Eirias yn edrych ymlaen i groesawu'r Fflam ynoDisgrifiad o’r llun, Dr John Green yn rhoi cyfle i'r bobl oedd wedi ymgasglu ym Mharc Eirias i gyffwrdd y FfaglDisgrifiad o’r llun, James Lusted gafodd y fraint o gludo'r Fflam yn Llandrillo-yn-RhosDisgrifiad o’r llun, Roedd nifer o dramorwyr yn cael cludo'r Fflam, gan gynnwys Igor Dolezel rhwng yn Y Rhyl, drwy noddwyr y daithDisgrifiad o’r llun, Nicola Cockburn yn cael y cyfle i gludo'r Fflam ym Mae Cinmel gyda chymorth ei chiDisgrifiad o’r llun, Beth Tweddel yn cludo'r Fflam yn Saltney sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr wrth i'r Fflam fynd i Gaer dros nosDisgrifiad o’r llun, Ac fe gafodd y Grochan ei thanio gan Jason Maguire a gludodd y Fflam i mewn ar ei geffyl i gae rasio Caer lle'r oedd miloedd yn barod am y dathliadStraeon perthnasolCyngerdd ar ddiwedd y daithCyhoeddwyd28 Mai 2012Pedwerydd diwrnod y FflamCyhoeddwyd24 Mai 2012