Mewn llun: Diwrnod olaf y Fflam yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Jennifer Moore oedd y cludwr cyntaf ddydd Mercher wrth iddi groesi dros Afon Dyfrdwy yng Nghaer

Gweithwyr y Post Brenhinol allan ar y stryd tu allan i'w swyddfa yng Nghaer yn gweld y Fflam yn pasio heibio

Y dorf wedi ymgasglu yn Llwyn Isaf Wrecsam rhai oriau cyn i'r Fflam eu cyrraedd

Ronald Price, sy'n 83 oed, oedd un o'r cludwyr drwy Wrecsam. Mae'n weithgar yn ei gymuned yn Llandrillo-yn-Rhos

A phan gyrhaeddodd Llwyn Isaf dywedodd Mr Price ei fod yn teimlo'n 20 oed unwaith eto

Dros ddwy awr cyn i'r Fflam gyrraedd Camlas Llangollen a Phont Ddŵr Pontcysyllte roedd pobl wedi ymgasglu i gael ei gweld

Filipa Ferreira oedd un o'r cludwyr drwy Acrefair

Roedd 'na fonllefau o gymeradwyaeth wrth i Muhammad Ullah, 12 oed, gludo'r Fflam drwy Acrefair

Seren Haf yn diddori'r cannoedd oedd wedi ymgasglu ger y Draphont gyda'i thelyn

Rhai o ddisgyblion Ysgol Y Gwernant, Llangollen, yn barod i groesawu'r Fflam i'r Draphont

Roedd 'na weiddi wrth i'r Fflam gyrraedd y gamlas cyn cael ei throsglwyddo i'r bad

Joanne Gregory yn cludo'r Fflam ar y gamlas dros y Draphont

Roedd y gŵr yma eisiau gwneud yn siŵr y byddai'n cael yr olygfa orau o'r Fflam ger y Draphont

Y miloedd allan ar y stryd yn Y Trallwng, lleoliad olaf y Fflam yng Nghymru

Mae Hayley Lynch wedi mynd heibio dyddiad geni ei babi ers tridiau ond yn benderfynol o gwblhau un o'r cymalau olaf yng Nghymru

Hi gafodd y fraint o gario'r Fflam am y tro olaf yng Nghymru cyn edrych ymlaen at yr enedigaeth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012