Hwb gwerth £3.5m i rygbi ar lawr gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae rygbi ar lawr gwlad i gael hwb ariannol o £3.5 miliwn gan Undeb Rygbi Cymru (URC).
Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn nifer o gynlluniau i wella safonau rygbi ar lefelau cymunedol, ysgol a choleg yn ôl yr undeb.
Bydd y cyllid yn gwella cyfleusterau'r gêm ar draws Cymru gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Mae'r undeb hefyd wedi datgan bod dyled yr undeb o ran y stadiwm wedi gostwng o £70 miliwn i £26 miliwn gyda'r posibilrwydd y bydd yr undeb yn ddyledwr erbyn 2021.
122 ystafell lletygarwch
Dywedodd Prif Weithredwr yr undeb, Roger Lewis, fod URC wedi perfformio'n "rymus yn ariannol" eleni.
Ymysg cynlluniau'r undeb mae:
£500,000 i annog clybiau i wella eu hisadeiledd a bydd clybiau yn gallu ymgeisio am grantiau gwerth hyd at £50,000 yr un.
Nifer o becynnau cyllid i'r system ysgolion i dalu am gyrsiau athrawon a meysydd llafur chwaraewyr.
Cyllid i Gynghrair Glaschwaraewyr newydd a phencampwriaethau rygbi coleg eraill
£200,000 i ddatblygu rygbi mewn ysgolion a cholegau
Rhaglen i ailwampio a moderneiddio'r 122 ystafell lletygarwch ar lefel 5 Stadiwm y Mileniwm
Arddangos pethau cofiadwy a chynnal teithiau i ymwelwyr yn Stadiwm y Mileniwm
Digido hen ddarllediadau o gemau rhyngwladol rygbi Cymru.
Dywedodd Mr Lewis mai nod y buddsoddiad oedd denu diddordeb pobl mewn rygbi yn hytrach na gweithgareddau a champau eraill.
"Rydym yn targedu'r cyllid hwn ar lawr gwlad a dyfodol rygbi yng Nghymru," meddai.
"Rydym am ddenu a chadw chwaraewyr o bob oedran yn ogystal â hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a swyddogion.
"Hefyd rydym am sicrhau bod cyfleusterau ein clybiau a chyfleusterau Stadiwm y Mileniwm yn y cyflwr gorau posib.
Dywedodd yr undeb eu bod wedi perfformio'n well na'r un undeb rygbi arall yn y byd gan lwyddo i gynnal cyfradd twf cyfansawdd blynyddol o 13.4% dros gyfnod o bum mlynedd.
Yn ôl yr undeb mae eu trosiant wedi cynyddu 24% dros y chwe blynedd diwethaf a bod eu buddsoddiad yn y gêm wedi cynyddu 30% yn ystod yr un cyfnod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd27 Mai 2012