Gatland 'yn iach i arwain y Llewod'
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, yn dweud ei fod yn siŵr y bydd yn ddigon iach i ofalu am daith y Llewod i Awstralia yn 2013.
Torrodd Gatland ei ddwy sawdl ar ôl syrthio Ddydd Llun Y Pasg pan oedd ar wyliau yn ôl yn Seland Newydd.
Cafodd llawdriniaeth i ail-adeiladu ei sawdl dde.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Scrum V BBC Cymru, dywedodd: "Fe allaf eich sicrhau y byddaf yn holliach o fewn ychydig wythnosau ac y byddaf i fyny ac yn rhedeg o gwmpas y lle".
Iawndal
Nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi rhoi sêl eu bendith yn swyddogol ar ryddhau Gatland dros dro er mwyn ymuno â'r Llewod ond dywedodd Gatland wrth y BBC mai'r cam nesaf yw "i'r Llewod gytuno â Chymru a Roger Lewis ynghylch hyd y cyfnod i ffwrdd a maint yr iawndal i'r Undeb".
Mae penaethiaid y Llewod am i hyfforddwr 2013 fod ar gael am flwyddyn i bob pwrpas.
Eisoes mae Undeb Rygbi Cymru wedi agor y drws i'r penodiad drwy ganiatáu i Gatland fethu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.
Mae prif weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, wedi sgwrsio'n anffurfiol gyda rheolwr y Llewod, Andy Irvine, a'r prif weithredwr John Feehan, er mwyn i Gatland fedru arwain y daith i Awstralia.
Roedd Gatland yn ddirprwy i Sir Ian McGeechan ar y daith i Dde Affrica yn 2009.
Gatland fyddai'r ail hyfforddwr o'r tu allan i Brydain i arwain y Llewod wedi i Graham Henry - oedd hefyd yn hyfforddwr Cymru - arwain y daith i Awstralia yn 2001.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012