Hybu profiadau diwylliannol plant sy'n byw mewn tlodi

  • Cyhoeddwyd
Ffilm
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw lleihau'r bwlch rhwng plant cyfoethog a thlawd

Mae elusennau a sefydliadau yng Nghymru yn cydweithio ar fenter newydd i ehangu profiadau diwylliannol.

Caiff y fenter ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd.

Ceisio sicrhau ystod eang o brofiadau diwylliannol i'r 200,000 o bobl ifanc sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yw'r nod.

Mae ymchwil gan yr elusen addysg Film Club yn dangos bod plant sy'n gweld ffilmiau drwy glybiau ysgol yn codi dyheadau, yn rhoi hwb i lythrennedd ac yn lleihau'r bwlch rhwng plant cyfoethog a thlawd.

Ymhlith y partneriaid sy'n rhan o'r fenter y mae Asiantaeth Ffilm Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Achub y Plant Cymru, Film Club Cymru a Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yng Nghymru.

Fe fydd y corff yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Fe fyddan nhw'n rhannu gwybodaeth, datblygu mentrau ar y cyd a threfnu gweithgareddau diwylliannol i sicrhau bod cyfleoedd ar gael mewn ardaloedd difreintiedig a chymunedol gwledig a threfol.

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn yn holi Sara Young o swyddfa'r Comisiynydd Plant

Mae'r budd eisoes i' weld yn Ysgol Gynradd Gaer, Casnewydd, lle mae 25% o'r disgyblion â hawl i gael cinio am ddim.

"Dydi mynd i'r sinema ddim yn opsiwn i nifer o'n disgyblion," meddai Abi Beacon, dirprwy bennaeth ac arweinydd y cynllun yn yr ysgol.

"Mae'r sinema agosaf bum milltir i ffwrdd ac mae'r gost yn atal nifer o'r plant rhag mynd.

"Mae gwylio amrywiaeth o ffilmiau yn ehangu profiadau plant, nid yn unig o'r sinema ond o'r byd ehangach."

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, oedd yn lansio'r fenter.

"Mae'r ymdrechion wedi creu argraff arnaf.

"Mae'n cau'r gagendor rhwng cyfleodd addysg a pherfformiad a'r modd y mae'n cysylltu disgyblion dan anfantais gyda ffyrdd newydd o gyfathrebu ac addysgu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol