Parhau i glirio llanast y llifogydd
- Cyhoeddwyd
Parhau mae'r gwaith o glirio'r llanast yng ngogledd Ceredigion wedi'r llifogydd difrifol ddydd Sadwrn.
Pan gawson nhw eu deffro yn oriau mân bore Sadwrn roedd troedfeddi o ddŵr.
Mewn rhai lleoedd roedd lefel y dŵr yn bum troedfedd (1.5 metr).
Fe ddinistriwyd eiddo, cartrefi, carafanau a ffyrdd ym mhentrefi Tal-y-bont, Llandre, Dôl-y-bont, Ynys Las, Borth, Penrhyncoch, Pen-bont Rhydybeddau a Chapel Bangor.
Cafodd tua 1,000 o bobl yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion eu heffeithio gan y llifogydd.
Achubwyd 150 gan y gwasanaethau brys a chafodd cannoedd eu symud i fan diogel.
Pwmpio dŵr
Cafodd tri o bobl driniaeth am fân anafiadau.
Dydd Llun mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynghori pobl yng Ngheredigion a Gwynedd bod mwy o law ar ei ffordd.
Maen nhw'n dweud na ddylai hyn achosi mwy o lifogydd ond y gallai gael effaith ar y gwaith clirio.
Fe ddylai pobl sy'n byw neu yn gweithio ger afonydd fod yn wyliadwrus a chymryd mwy o ofal pan mae'r lefelau yn codi.
Mae afonydd yn dal wedi chwyddo ac yn beryglus wedi'r glaw trwm ac fe ddylai pobl gadw'n glir o lannau'r afonydd.
Yn gynharach ddydd Llun dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mai un peiriant oedd ganddyn nhw yn pwmpio dŵr erbyn bore Llun.
Cafodd tîm o arbenigwyr eu galw o Rydaman i ddelio gyda'r gwaith yn ardal Llanbadarn Fawr o Aberystwyth.
Bu'r criwiau yn gweithio drwy'r nos.
Roedd Meddygfa Ystwyth yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, wedi cael ei heffeithio gan y llifogydd, gyda'r gwasanaethau wedi'u hadleoli i safle IBERS ger Penrhyncoch.
Dydd Llun dywedodd llefarydd ar ran y feddygfa, sy'n gofalu am 9,000 o gleifion, fod sawl troedfedd o ddŵr wedi mynd i mewn ac wedi difrodi ystafelloedd ymgynghori, y dderbynfa a'r swyddfeydd.
Mae'r holl offer trydanol oedd ar y llawr gwaelod wedi eu dinistrio.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd fod dros fis o law wedi syrthio yn Nhrawsgoed, ger Aberystwyth, ddydd Gwener.
Fe wnaeth dwywaith gymaint o law syrthio mewn 24 awr na'r hyn gafodd ei disgwyl yr ardal ar gyfer mis Mehefin.
Apêl
Mae arweinydd cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, sy'n byw yn Nhal-y-bont , wedi lansio apêl i helpu'r trigolion sydd wedi dioddef oherwydd y llifogydd.
"Fe wnes i'n bersonol weld dinistr y llifogydd," meddai.
"Dwi'n gobeithio drwy lansio'r apêl y gallwn gynorthwyo'r rhai effeithiwyd."
"Mae wedi bod yn braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i gynorthwyo cymdogion yn y fath fodd," ychwanegodd.
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, yng Ngheredigion ddydd Llun: "Dwi'n addo y bydd gwersi'n cael eu dysgu."
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi canmol "dewrder nodedig" y gwasanaethau brys.
"Roedden nhw'n gweithio mewn amgylchiadau anodd ac fe lwyddwyd i achub cannoedd o bobl.
"Gyda diolch i broffesiynoldeb ac ymroddiad y criwiau achub collodd neb eu bywydau.
"Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r holl asiantaethau dros yr oriau, dyddiau ac wythnosau nesaf i sicrhau bod yr ardaloedd yn dod yn ôl i'r drefn arferol mor fuan â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012