Rhybudd terfynol i gyngor sir

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd Cyngor Sir BenfroFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth wedi ysgrifennu at y cyngor sir

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhybudd terfynol i Gyngor Sir Benfro wrth ddweud eu bod yn methu yn eu dyletswydd i ddiogelu plant.

Mewn llythyr i arweinydd y cyngor, Jamie Adams, mae'r llywodraeth wedi dweud bod methiannau cyson yn golygu ei fod yn debygol y bydd rhaid iddyn nhw gyflwyno gorchmynion uniongyrchol er "mwyn sicrhau bod y cyngor sir yn cydymffurfio gyda'i ddyletswyddau cyfreithiol."

Dywedodd Mr Adams ei fod yn synnu at gynnwys y llythyr, yn enwedig gan fod cyfarfod wedi ei drefnu gyda gweinidogion ddydd Mercher.

Mae angen iddo ymateb i weinidogion erbyn 5pm ar Fehefin 22.

Mae'r llythyr wedi sôn am honiad ym mis Mawrth fod athro yn un o ysgolion y sir wedi clymu dwylo plentyn y tu ôl i'w gefn.

Honnwyd nad oedd y cyfarwyddwr addysg wedi ymyrryd yn brydlon ar ôl i'r ysgol fethu â chymryd camau priodol.

Monitro

Ymyrrodd y cyfarwyddwr bum diwrnod yn ddiweddarach - ar ôl anogaeth bwrdd gweinidogol sy'n monitro ar ran Llywodraeth Cymru effeithiolrwydd diogelwch plant yn y sir.

Hefyd mae'r llythyr wedi sôn am ddisgyblion yn cael eu cadw mewn ystafell dan glo heb olau naturiol nac awyr iach.

Er gwaethaf ymchwiliad cychwynnol ac argymhellion yr heddlu, meddai'r llythyr, nid oedd ymchwiliad disgyblu wedi ei gynnal i gwynion am ystafell wedi ei phadio mewn uned ar gyfer plant gyda anghenion arbennig - a phroblemau ymddygiad.

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns, AC Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi dweud bod angen canllawiau cadarnach ar gyfer "corneli seibiant" mewn unedau cyfeirio disgyblion.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: "Mae'r diffyg cynnydd yn yr achos hwn yn ysgytwol.

"Dylai'r llywodraeth gymryd camau cyn gynted â phosib."

Yn 2009 roedd cwyn fod plant yn cael eu cloi yn ystafell uned arbennig yn Neyland.

Pan wnaed yr honiad gwreiddiol dywedodd y cyngor nad oedd sefyllfa debyg yn ysgolion eraill y sir.

Ond mae'r bwrdd gweinidogol wedi dweud bod ystafell debyg mewn ysgol gynradd arall.

Yn ôl y llythyr, roedd yn yr ysgol hon ddwy ystafell arall heb ffenestri lle oedd plant yn cael eu cloi

'Digon hir'

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas: "Rydym wedi aros digon hir ac nid ydym yn barod i roi rhybudd arall.

"Fe fyddwn yn cyhoeddi datganiad ar ôl ystyried ymateb yr arweinydd ac ar ôl penderfynu'r camau nesaf."

Ond dywedodd arweinydd y cyngor: "Rwyf yn synnu at gynnwys y llythyr, yn enwedig o ystyried y trafodaethau positif â'r bwrdd gweinidogol ers ffurfio'r cyngor newydd.

"Rwy'n poeni nad yw barn y gweinidogion efallai'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol o fewn y cyngor.

'Datrys'

"Yn wir, oherwydd absenoldeb unrhyw gysylltiadau clir gyda gweinidogion rwy'n meddwl y byddwn yn ei chael hi'n anodd symud ymlaen yn effeithiol.

"Rwy'n gobeithio datrys rhai o'r materion hyn pan fyddaf yn cwrdd â nhw yfory."

Roedd swyddogion y cyngor a staff ysgolion, meddai, wedi cymryd "camau sylweddol" ers yr adroddiadau beirniadol.

"Byddwn yn cefnogi staff ac yn parhau i gymryd pob cam posib i weithredu'n unol â disgwyliadau gweinidogion ac yn fwy pwysig, plant y sir sy'n parhau yn brif flaenoriaeth."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Perkins, aelod cabinet â chyfrifoldeb am Ddiogelwch Plant a Gwasanaethau Plant: "Rwy'n sicr ar ôl cyfarfod yfory y bydd gweinidogion yn fodlon ar y camau ymlaen sydd wedi eu cymryd ac y byddwn yn cytuno fod diogelu (plant) ar frig agenda y cyngor."

Diffyg llywodraethu

Ddechrau'r flwyddyn dywedodd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fod gwasanaethau sy'n gwarchod plant a phobl ifanc y sir "yn agored i beryglon diangen".

Roedd yr adroddiad wedi dau adroddiad beirniadol Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Roedd y ddau adroddiad yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc ac yn cyfeirio at fethiannau arferion yr awdurdod a diffyg llywodraethu effeithiol wrth geisio diogelu ac amddiffyn plant.

Ond dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod "diwylliant cadarnhaol o barch ac ymddiriedaeth" yn y cyngor sir.

Doedd ei adroddiad ddim yn credu bod angen "newidiadau cynhwysfawr".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol