Cae artiffisial 'yw'r ffordd ymlaen'

  • Cyhoeddwyd

Dylai holl glybiau pêl-droed Uwchgynghrair Cymru gael chwarae ar gaeau artiffisial, yn ôl ysgrifennydd newydd y gynghrair.

Bydd Gwyn Derfel yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor o Aelodau Cynulliad ddydd Mercher wrth iddyn nhw drafod dyfodol y gamp yng Nghymru.

Mae Mr Derfel am i Lywodraeth Cymru ariannu caeau artiffisial sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf fel sy'n cael eu defnyddio yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Y syniad yw darparu cae fyddai'n darparu maes ymarfer bob tywydd i dimau, a hefyd agor yr adnoddau i'r cymunedau.

Bydd Mr Derfel yn dadlau bod llywodraethau yn Sweden a Thwrci eisoes wedi buddsoddi mewn caeau o'r fath. Ar hyn o bryd, nid yw Uwchgynghrair Cymru yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

'Calon y gymuned'

Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor i'w stadiwm newydd yn Nantporth y tymor diwethaf

"Mewn byd delfrydol," meddai, "fe fyddwn wrth fy modd yn gweld pêl-droed yr Uwchgynghrair yn cael ei chwarae ar gaeau gwair o safon uchel, ond rhaid i ni fyw yn y byd real a does gen i ddim amheuaeth mai caeau artiffisial 3G/4G yw'r ffordd ymlaen i bob un o'n clybiau.

"Byddai Bangor, er enghraifft, yn medru chwarae ar eu cae gwair ardderchog newydd yn Nantporth, ond fe fyddai cae artiffisial gerllaw yn rhoi cartref i'w hacademi ac yn gallu cael ei ddefnyddio gan y gymuned gan osod y clwb yng nghalon y gymuned."

Ychwanegodd bod cynnydd o 26% wedi bod yn y torfeydd sy'n dod i weld gemau'r Uwchgynghrair ers iddi newid i fformat o 12 clwb, ond bod heriau yn wynebu'r Uwchgynghrair i'r dyfodol ynglŷn â chynaliadwyedd a meysydd chwarae.

"Eisoes mae 121 o gaeau artiffisial yng Ngogledd Iwerddon, ac mae cynlluniau am 207 arall," meddai.

"Gallai buddsoddiad tebyg yng Nghymru drawsnewid pêl-droed yn ein cymunedau."

Yng Ngogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth o 1.5 miliwn, mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gyfrannu £36 miliwn tuag at ddatblygu stadiymau yn Uwchgynghrair FAI, a chaeau artiffisial newydd.