Llys yn diddymu euogfarn ffotograffydd y wasg

Clywodd y llys bod yr euogfarn wedi effeithio ar waith Dimitris Legakis fel ffotograffydd llawrydd
- Cyhoeddwyd
Mae euogfarn ffotograffydd y wasg, a gafodd ei arestio tra'n tynnu lluniau tân mewn safle gwerthu ceir, wedi cael ei diddymu yn y llys.
Cafwyd Dimitris Legakis o Abertawe yn euog gan ynadon y llynedd am wneud yr hyn a ddisgrifiwyd fel "sylwadau sarhaus" i swyddogion y gwasanaethau brys yng Ngorseinon yn 2024.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad Alexandra Wilson wrth Lys y Goron Abertawe, ar ôl adolygu'r dystiolaeth a siarad â thystion, na fyddai gwrthwynebu'r apêl "o ddiddordeb i'r cyhoedd mwyach".
Y llynedd cafodd honiad arall yn erbyn Mr Legakis - honiad yn ymwneud ag amharu ar y drefn gyhoeddus - ei ddiddymu yn y llys.
Ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Huw Rees wrth Lys y Goron Abertawe nad oedd Mr Legakis bellach yn euog, gan iddo ganiatáu'r apêl.
Doedd "dim digon" o dystiolaeth, meddai'r erlyniad wrth y llys.
Dywedodd Dimitris Legakis wrth BBC Cymru fod y canlyniad wedi rhoi "rhyddhad" iddo, ond ei fod wedi cael nosweithiau di-gwsg yn sgil y profiad.
'Yn groes i hawliau dynol'
Cafodd Mr Legakis - ffotograffydd llawrydd sy'n rhedeg asiantaeth luniau Athena yn Abertawe - ei arestio tra'n tynnu lluniau tân a ddifrododd fwy na 20 o gerbydau mewn safle gwerthu ceir yn Abertawe ym mis Awst 2024.
Wrth amddiffyn Mr Legakis, dywedodd y bargyfreithiwr James Hartson fod ei gleient yn "ffotograffydd newyddiadurol llawrydd, uchel ei barch" a'i fod wedi colli gwaith yn dilyn yr euogfarn.
"Dyma'r eildro iddo gael ei lusgo i lys troseddol... hyd y gwela' i, am ei fod wedi 'ypsetio' swyddog heddlu," ychwanegodd Mr Hartson.
"Mae'n bryd i'r heddlu sylweddoli nad yw'n drosedd bod yn sarhaus neu'n anghwrtais ... oherwydd mae'n ymddangos mai dyna'r prawf sy'n cael ei roi i Mr Legakis bob tro y mae'n cyrraedd lleoliad i wneud ei waith.
"Mae hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol. Os nad yw'r heddlu'n cytuno ag ef, maen nhw'n ei gloi i fyny ac yn ei daflu i fan."
Dywedodd y Barnwr Rees wrth y llys ei fod yn deall "angerdd" Mr Hartson, a gofynnodd pam nad oedd yr achos wedi'i adolygu'n gynt.
"Nid oes gennym lawer o ddewis arall heblaw caniatáu'r apêl," meddai wrth Mr Legakis.
"Nid oes euogfarn yn eich erbyn mwyach."
'Sefyllfa ofnadwy'
Wrth siarad â BBC Cymru, fe ddisgrifiodd Dimitris Legakis y sefyllfa yn un "ofnadwy", gan ychwanegu ei fod yn profi hunllefau yn yr ychydig amser oedd ganddo i gysgu.
"Roedd hefyd yn codi cywilydd arnaf, oherwydd roedd yn rhaid i mi ddweud wrth rai cleientiaid fod achos llys yn fy erbyn."
Dywedodd iddo gael ei arestio ar ôl galw swyddog tân yn "gachgi", mewn ymateb i'r gweithiwr brys - yn honedig, yn gwneud "ystumiau cyffion" tuag at Mr Legakis wrth iddo dynnu lluniau ar y palmant.
Tydi Mr Legakis ddim yn difaru galw'r swyddog tân yr enw "o gwbl", meddai, gan wrthod yr awgrym bod ei ddefnydd o iaith yn bryfoclyd.
Ychwanegodd mai "rhyddid hawliau dynol a mynegiant" oedd o.
"Os ydych chi'n anghytuno hefo rhywun neu'n codi'ch llais, nid yw'n ddyletswydd ar yr heddlu i blismona hynny - ac yna eich arestio chi.
"Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi cael fy mradychu," meddai Dimitris Legakis.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.