Gŵyl Wanwyn y Sioe Fawr yn dod i ben wedi 'adolygiad cynhwysfawr'

Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd Gŵyl Wanwyn yn cael ei chynnal yn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cadarnhau bod Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru yn dod i ben.
Yn ôl y gymdeithas maen nhw wedi dod i benderfyniad wedi "adolygiad strategol cynhwysfawr" o'u gweithgareddau.
Mae'n golygu na fydd gŵyl yn cael ei chynnal yn 2026.
Ar un adeg roedd 25,000 yn ymweld â'r digwyddiad deuddydd ym mis Mai.
Ar wefan y Sioe, mae'r ŵyl yn cael ei disgrifio fel "dathliad o fywyd gwledig" gyda rhaglen lawn o gystadlaethau da byw, ceffylau a 200 o stondinau gan fasnachwyr.
Roedd hi'n arfer cael ei hadnabod fel Gŵyl Tyddyn a Gardd.
Canolbwyntio ar y Sioe Fawr
Mewn llythyr at aelodau, mae prif weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones, yn dweud y bydd y penderfyniad yn caniatau iddyn nhw ganolbwyntio ymdrechion ar y "prif ddigwyddiad sef Sioe Frenhinol Cymru".
Mae'n bosib y bydd elfennau penodol o'r ŵyl - fel y sioeau ceffylau a chŵn - yn parhau mewn "fformatau newydd".
Y bwriad hefyd yw datblygu nifer o brosiectau "strategol allweddol" dros y blynyddoedd nesaf, meddai, sef:
gwaith adnewyddu ar faes y sioe;
gweithredu systemau tocynnau digidol gwell;
cynnig mwy o gefnogaeth i'r siroedd nawdd;
archwilio prosiectau newydd a "dulliau arloesol o gyflawni ein hamcanion elusennol".
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2024
Mae'r llythyr yn cydnabod y bydd "y newyddion yn siomedig i lawer" a'u bod nhw "am fynegi diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Ŵyl Wanwyn ers i'r Gymdeithas ei chymryd drosodd oddi wrth y Cylchgrawn Smallholder yn 2001".
Mae yna gydnabyddiaeth hefyd i gyfraniad "ymroddedig a brwdfrydedd" y pwyllgor dan arweiniad cyfarwyddwr anrhydeddus yr ŵyl, Geraint James.
Yn ôl y llythyr, mae'r penderfyniad yn "nodi pennod newydd gyffrous i'r gymdeithas" wrth "edrych ymlaen gyda ffocws adnewyddedig".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.