Cystadleuwyr 2012: Tom James
- Cyhoeddwyd
Rhwyfo (Pedwar heb lywiwr)
Uchafbwynt gyrfa
Enillodd Tom James fedal aur gyda'r pedwar heb lywiwr yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008, ac ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2011.
Roedd yn aelod o griw rhwyfo Caergrawnt enillodd y ras enwog ar y Tafwys yn 2007 wedi iddo fod yn aelod o'r tîm a gollodd y ras deirgwaith (2003, 2005 & 2006).
Cefndir
Dechreuodd James, o Wrecsam, rhwyfo wedi i anaf i'w ben-glîn ei orfodi i roi'r gorau i redeg.
Fe gynrychiolodd Prydain am y tro cyntaf yn 19 oed yn 2003, gan ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd y flwyddyn honno fel rhan o'r criw wyth.
Enillodd fedal efydd arall gyda'r wyth yn 2007.
Oeddech chi'n gwybod?
Cafodd James wybod bod ganddo guriad calon afreolaidd ar ddechrau 2012, ond mae'n dweud bod y cyflwr o dan reolaeth wedi iddo gael triniaeth.
Yn dilyn Gemau Olympaidd Beijing yn 2008, fe gafodd flwyddyn i ffwrdd, ac yna fe gollodd y rhan fwyaf o 2010 oherwydd anaf i'w gefn.