Ystyried system draffig dair lôn i wella tagfeydd dros y Fenai

Pont BritanniaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru "gellir gwneud mwy yn y tymor byr i ganolig i wella gwytnwch Pont Britannia"

  • Cyhoeddwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu astudiaethau pellach ar osod dargyfeirwyr gwynt a system dair lôn ar un o'r ddwy bont sy'n croesi Afon Menai.

Mewn datganiad ddydd Iau fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru gadarnhau bod y mesurau o dan ystyriaeth yn sgil argymhellion comisiwn a gafodd ei sefydlu i wella gwytnwch y cysylltiadau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.

Mae galwadau hirdymor wedi bod am drydedd croesiad dros y Fenai, sydd wedi cynyddu yn sgil cau Pont y Borth - yr hynaf o'r pontydd - ar ddau achlysur ers Hydref 2022.

Roedd adroddiad y comisiwn, a gafodd ei gyhoeddi yn Chwefror 2024, wedi argymell peidio adeiladu trydedd pont dros y Fenai ond yn dweud bod gwerth edrych eto ar y sefyllfa pe bai yna "ddatblygiadau economaidd sylweddol" ar yr ynys.

Yn ei ddatganiad dywedodd Ken Skates AS "er nad ydyn ni wedi diystyru trydedd bont yn y dyfodol, credwn y gellir gwneud mwy yn y tymor byr i ganolig i wella gwytnwch Pont Britannia".

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont y Borth - yr hynaf o'r ddau groesiad - wedi gorfod cau ar ddau achlysur ers Hydref 2022 i alluogi gwaith trwsio brys

Y bwriad yw i gomisiynu gwaith manwl a dadansoddiadau strwythurol ar osod dargyfeirwyr gwynt (wind deflectors), fyddai'n lleihau'r achlysuron lle mae'n rhaid cau'r bont oherwydd gwyntoedd cryfion.

Cadarnhaodd hefyd y bydd creu system lif llanw tair lôn yn cael ei hystyried.

Yn ôl y gweinidog, byddai system o'r fath yn lleddfu tagfeydd traffig ac yn cynnig rhagor o wytnwch drwy ddarparu capasiti ychwanegol lle mae ei angen fwyaf.

Y disgwyl yw y byddai system o'r fath yn galluogi dwy lôn i deithio i gyfeiriad Bangor yn y bore (ac un tuag at Ynys Môn) - ac fe fyddai'r gwrthwyneb yn ei le yn y prynhawn.

Ond mae rhybudd hefyd y byddai angen "cryn waith pellach a mesurau lliniaru risg i sicrhau diogelwch a dibynadwyedd y system", ac byddai'n rhaid lleihau'r uchafswm traffig i 30mya oherwydd byddai'r tair lôn yn gulach na'r safon.

Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates nad oedd wedi diystyru trydedd pont yn y dyfodol

Bydd £1 miliwn hefyd yn cael ei fuddsoddi dros gyfnod o ddwy i dair blynedd i wella'r ddarpariaeth bysiau rhwng Môn a'r tir mawr.

Yn ôl Mr Skates y bwriad yw i "wella'r atyniad at drafnidiaeth gyhoeddus", ac i ddatblygu'r mesurau hyn "cyn gynted ag y bo modd, gan gydnabod yr angen am ymgysylltu a chydgysylltu agos â rhanddeiliaid allweddol er mwyn cael y cymeradwyaethau a'r cydsyniadau sydd eu hangen".

'Gellir gwneud mwy yn y tymor byr'

Ond yn ogystal ag ystyried gwelliannau hirdymor, mae'r gweinidog yn dweud bod bwriad cychwyn ar rai mesurau ar unwaith.

Yn eu plith mae bwrw ymlaen gyda datblygu ac uwchraddio cyfarparu rheoli traffig y bont ynghyd â system terfynau cyflymder amrywiol, marciau ac arwyddion ffyrdd newydd.

Byddai hyn, yn ôl Mr Skates, yn gwella rheolaeth gyffredinol y llif traffig ac effeithlonrwydd wrth ymateb i ddigwyddiadau.

"Er nad ydyn ni wedi diystyru trydedd bont yn y dyfodol, credwn y gellir gwneud mwy yn y tymor byr i ganolig i wella gwytnwch Pont Britannia a'r cysylltiadau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr", meddai.

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth: "Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ailadrodd nad ydyn nhw wedi'i diystyru, mae'n amlwg eu bod nhw wedi sgrapio'r prosiect"

Wrth ymateb i ddatganiad Mr Skates, dywedodd Aelod o'r Senddd Ynys Môn fod y cynnydd ar wella gwytnwch croesiadau'r Fenai wedi bod yn "gwbl annigonol".

"Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru adleisio'r galwadau am fesurau gwytnwch yr wyf i a nifer o bobl eraill ar Ynys Môn wedi bod yn eu gwneud ers dros ddegawd," meddai Rhun ap Iorwerth AS.

"Mae cau annisgwyl Pont y Borth yn ddiweddar yn ein hatgoffa unwaith eto am y pwysigrwydd o symud ymlaen gyda'r gwaith yn llawer cyflymach, gydag amserlenni pendant yn eu lle i sicrhau bod y mesurau yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl.

"O ran y trydydd croesiad, er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ailadrodd nad ydyn nhw wedi'i ddiystyru, mae'n amlwg eu bod nhw wedi sgrapio'r prosiect a fyddai bellach yn cael ei adeiladu o dan y cynlluniau gwreiddiol.

"Mae hyn yn enghraifft arall o amharodrwydd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r problemau gwytnwch hirdymor wrth deithio yn ôl ac ymlaen o'r tir mawr."

Pynciau cysylltiedig