Tirfeddianwyr yn mynd â chwmni cynllun peilonau i'r Uchel Lys

Dywed tirfeddianwyr eu bod yn cefnogi ynni gwyrdd ond mae'n nhw'n honni bod asiantiaid yn camddefnyddio'u hawliau wrth fynnu mynediad i'w tir i gynnal arolygon
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o ffermwyr a pherchnogion tir yng Nghymru wedi dechrau camau yn yr Uchel Lys yn erbyn cwmni ynni gwyrdd sy'n bwriadu codi peilonau ar draws Cymru.
Mae dros 300 o bobl yn cyhuddo Green GEN Cymru o gamddefnyddio'u hawl a "gorfodi" mynediad ar dir preifat.
Yn ôl dogfennau llys, mae asiantiaid ar ran y cwmni'n cael eu cyhuddo o ymddwyn mewn ffordd "gymhellol" a di-hid, "heb unrhyw barch at amddiffyniadau amgylcheddol na lles cymunedol".
Honna'r ffermwyr a thirfeddianwyr bod asiantiaid yn ceisio gorfodi mynediad i'w tir er mwyn cynnal arolygon ar gyfer tri llwybr o beilonau a fyddai yn ymestyn ar hyd dros 200 cilomedr yng ngefn gwlad Cymru.
Fe fyddai'r llwybrau sydd yn yr arfaeth yn mynd trwy Sir Gâr, Powys a Cheredigion, at fynyddoedd Cambria.
Dywed y cwmni eu bod yn adolygu'r cais ac am ymateb "trwy'r sianelau cyfreithiol priodol".
Cwmni cynllun peilonau i fynd â thirfeddianwyr i'r llys
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
Holi barn cymunedau am gynllun is-orsaf trydan dadleuol yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
Cynllun peilonau 'blêr' yn hollti barn yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
Mae'r cais cyfreithiol, gan y cwmni New South Law, yn dadlau bod y cwmni'n gweithredu y tu hwnt i'w bwerau fel awdurdod caffael - corff â hawl i brynu tir yn orfodol ar gyfer prosiectau cyhoeddus.
Mae hefyd yn honni bod asiantiaid yn croesi ffiniau ffermydd mewn dillad budr, gan greu risg o ledu clefydau ymhlith da byw fel TB mewn gwartheg a brech y defaid, a gwrthod dilyn protocolau bioddiogelwch ac amgylcheddol.
Mae'r cais yn enw Natalie Barstow - sylfaenydd y grŵp Justice for Wales, sy'n galw am degwch a phrosesau cyfreithiol wrth gynllunio a gweithredu projectau ynni mawr.
Dywedodd: "Doedd dim dewis ar ôl i ni heb law am fynd i'r gyfraith trwy'r Uchel lys o ganlyniad ymgyrch bwlio Green GEN Cymru.
"Rydym wedi derbyn cannoedd o adroddiadau gan bobl yn teimlo bod eu cartrefi'n cael eu tresmasu.
"Mae llawer yn teimlo'n ddi-rym, yn outnumbered ac yn ofni cael eu harestio neu eu herlyn.
"Tra ein bod yn cefnogi ynni gwyrdd, ni ddylai ymddygiad hollol afresymol Green GEN Cymru gael parhau."

Mae cryn wrthwynebiad wedi bod i'r posibilrwydd o godi peilonau ar hyd dros 200 cilomedr yng ngefn gwlad Cymru
Ychwanegodd Ms Barstow: "Rydym oll wedi arfer gweithio gyda chwmnïau sydd angen mynediad i dir - mae'n rhan o fywyd cefn gwlad - ond mae'r sefyllfa yma yn gwbl wahanol.
"Mae'r ymddygiad gan Green GEN Cymru a'i asiantiaid [yn] ymwthiol, bygythiol a heb unrhyw barch at y bobl sy'n byw a gweithio yma.
"Sefydlwyd y gynghrair Justice for Wales mewn ymateb i anesmwythder cynyddol ynghylch y dull trin y broses yma... diffyg trylowder, diffyg parch at hawliau pobl a'r risgiau sy'n cael eu peri i ffermydd a chymunedau gwledig."
Mae ffermwyr a thirfeddianwyr yn honni bod sawl fideo yn dangos asiantiaid yn cerdded, mewn dillad aflan, trwy ffrwd dan warchodaeth sy'n gynefin i rywogaethau mewn perygl fel cimychiaid yr afon a dyfrgwn.
'Rydym yn adolygu'r cais yn ofalus'
Dywedodd Mary Smith, cyfreithiwr yng nghwmni New South Law: "Mae'r achos yma'n codi cwestiynau sylfaenol ynghylch atebolrwydd o fewn y broses symud i ynni adnewyddadwy yn y DU a sut mae ymddygiad y diwydiant yn bygwth yr amgylchedd a hawliau dynol cymunedau.
"Mae cael statws awdurdod caffael â chyfrifoldeb i ymddwyn yn gyfreithiol a thrin y cyhoedd yn resymol a theg.
"Nid yw'n rhoi rhwydd hynt i ddefnyddio tactegau gormesol ac anghyfreithlon wrth weithredu amcanion masnachol."
Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru y byddan nhw'n "ymateb yn unol â chais y llys" mewn cysylltiad â'r cais ar ran y tirfeddianwyr.
Ychwanegodd: "Rydym yn adolygu'r cais yn ofalus gydag ein ymgynghorwyr cyfreithiol a byddwn yn ymateb trwy'r sianelau cyfreithiol priodol."