Cystadleuwyr 2012: Chris Bartley

  • Cyhoeddwyd
Chris BartleyFfynhonnell y llun, Boc

Chris Bartley - Rhwyfo (Pedwarawd ysgafn)

Mae Prydain wedi enwi 48 rhwyfwr yn eu carfan ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012, gan gynnwys dau Gymro ac un Gymraes.

Un o'r rheini yw Chris Bartley.

Cafodd ei eni yn Wrecsam ar Chwefror 2, 1984 er iddo gael ei fagu yng Nghaer lle y dechreuodd rhwyfo tra'n ddisgybl yn Ysgol y Brenin, Caer.

Roedd yn aelod o'r criw enillodd fedal efydd yng Nghwpan y Byd 2011, ond fe aeth un yn well yn 2012 trwy ennill medal arian yng nghystadleuaeth y pedwarawd ysgafn.

Ond yr orchest fwyaf mae'n debyg oedd ennill medal aur ym Mhencampwriaeth y Byd yn Seland Newydd yn 2010.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae Chris yn ffotograffydd rhan amser pan nad yw'n rhwyfo, ac mae'n hyfforddi tîm rhwyfo merched Ysgol Ramadeg Sir William Borlase.