Ymgyrchwyr i gadw catrawd yn mynd i San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n brwydro i achub catrawd y Queen's Dragoon Guards yn cynnal rali yn Llundain.
Fe fydd cyn-filwyr, gan gynnwys un gŵr 93 oed oedd yn gwasanaethu yng Ngogledd Affrica - Harold Ponfield - yn cyfarfod yn San Steffan cyn cyflwyno deiseb i Downing Street.
Mae 'na bryder y bydd y gatrawd yn dod i ben o dan gynlluniau gan Lywodraeth San Steffan i wneud toriadau i'r adran amddiffyn.
Dywedodd economegydd ar amddiffyn bod teyrngarwch i gatrawd yn hirhoedlog ac yn cael eu cadw gan nifer.
Ond dywedodd na fyddai rhai unedau hanesyddol yn diflannu.
Mae gan y llywodraeth gynlluniau i gwtogi nifer yr aelodau sydd yn y fyddin o 102,000 i 82,000 erbyn 2020.
Dim penderfyniad
Ym mis Mai fe ddywedodd cyn swyddogion a ffynonellau uchel yn y gatrawd y gallai'r enw ddiflannu'n llwyr.
Mae'r gatrawd yn un o dair Cymreig sy'n dal i fodoli.
Ond mae'r Adran Amddiffyn yn dweud nad oes 'na benderfyniad wedi ei wneud eto.
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth y gatrawd orymdeithio drwy Abertawe a Chaerdydd i nodi eu bod adref wedi taith chwe mis i Afghanistan.
Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf er cof am y rhai a fu farw yn ystod y daith.
Gobaith ymgyrch savethewelshcavarly.com yn Llundain ddydd Iau yw dylanwadu ar y penderfyniad y bydd rhaid i'r ysgrifennydd amddiffyn ei wneud yn y toriadau nesaf.
Fe fydd yr ymgyrchwyr yn gyrru tanc drwy'r strydoedd er mwyn codi sylw.
"Rydym am iddyn nhw ein cymryd o ddifri ac i fod wedi eu cynrychioli yn iawn o fewn yr Undeb," meddai llefarydd.
"Pan oedd y gatrawd yng Nghymru'r wythnos diwethaf, roedd 'na groeso arbennig iddyn nhw.
"Ein cam nesaf yw mynd a'r gefnogaeth i San Steffan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2012
- Cyhoeddwyd17 Mai 2012